Profodd nifer o bobl drafferthion wrth geisio gwrando ar Radio Cymru fore Mercher (Ionawr 8).
Sylweddolodd Amelia sydd yn byw yn Aberystwyth fod hi wedi colli signal tua 10:30yb a rhannu ei phrofiad ar wefan gymdeithasol Twitter.
Unrhywun arall wedi colli signal @BBCRadioCymru yn ardal Aberystwyth? #maendawelyma
— Amelia ??????? Senedd ?6329Ben (@AmeliaAber) January 8, 2020
Troi at BBC sounds
Bu rhaid i Gwyneth Owen o Bwllheli droi at ap BBC Sounds er mwyn gwrando ar yr orsaf radio yn hytrach na defnyddio ei set radio draddodiadol.
Beth sydd wedi digwydd i Radio Cymru bore 'ma? Neu tybed mai fi sydd angen set radio newydd?
— GwynethOwen (@gwynethsol1) January 8, 2020
Nam ar y trosglwyddydd
Yn ôl llefarydd ar ran Radio Cymru “mae nam wedi bod ar drosglwyddydd Blaenplwyf ers Rhagfyr 26”, ac mae gwaith yn cael ei wneud ar y trosglwyddydd heddiw er mwyn datrys y broblem.
Mae trosglwyddydd Blaenplwyf wedi bod yn trosglwyddo radio byw ers mis Hydref 1956. Darllenwch ragor am hanes y trosglwyddydd yma.
Ydych chi wedi cael trafferthion gyda signal Radio Cymru? Gadewch sylw isod.