Cau strydoedd Aberystwyth i greu parthau diogel

Mae rhai o strydoedd Aberystwyth wedi eu cau am y tro cyntaf heddiw er mwyn creu parthau diogel.

Gohebydd Golwg360
gan Ohebydd Golwg360
IMG_1494

Gweithwyr cyngor yn cau Heol y Bont i gerbydau

IMG_1508

Gweithwyr cyngor yn cau Ffordd y Môr i gerbydau

IMG_1520

Er gwaethaf y glaw roedd cwsmeriaid yn cael eistedd tu allan i gaban Pd’s Diner am y tro cyntaf heddiw.

IMG_1501

Roedd siopau trin gwallt yn cael ail-agor eu drysau heddiw.

Mae rhai o strydoedd tref Aberystwyth wedi eu cau am y tro cyntaf heddiw er mwyn creu parthau diogel i gerddwyr, a chreu mwy o le tu allan i fân-werthwyr a’r sector lletygarwch fasnachu.

Bydd strydoedd yn Aberystwyth, Aberaeron, Aberteifi a Chei newydd yn cau rhwng 11 y bore – 6 yr hwyr bob dydd.

Yn ôl llefarydd ar ran Cyngor Sir Ceredigion bydd llefydd i fasnachu yn y sir yn cael eu “hailddiffinio”.

Er hyn, yn fuan ar ôl cyhoeddi’r cynlluniau wythnos ddiwethaf bu rhaid i’r Cyngor wneud newidiadau i’w cynlluniau gwreiddiol, ac ychwanegu pwyntiau mynediad i fusnesau fedru derbyn nwyddau.

Mae’r Cyngor yn gofyn i fusnesau geisio derbyn nwyddau y tu allan i oriau agor cyhyd â phosib, gan bwysleisio na fydd cerbydau sy’n dosbarthu nwyddau’n gallu parcio am gyfnod hirach na’r hyn sydd wedi cael ei nodi, a hynny fel bod digon o le i bobol gerdded ar y strydoedd.

“Fydd dim modd gyrru ar gyflymdra uwch na phum milltir yr awr, a bydd rhaid defnyddio goleuadau perygl ar bob adeg, yn debyg i’r trefniadau arferol yn Sioe Llanelwedd.”

Dyma’r pwyntiau mynediad newydd ar gyfer derbyn nwyddau:

Aberystwyth

  • Ar gyffordd Stryd Portland a Heol y Frenhines, gan adael ymlaen i Porth Bach, y Stryd Newydd tuag at Eglwys Sant Mihangel i Faes Lowri, yna i’r promenâd;
  • Ar gyffordd Ffordd y Môr a Lôn Cambria i fyny at Y Ffynnon Haearn; bydd disgwyl i’r faniau droi’n ôl at Ffordd y Môr;
  • Bydd cerbydau mwy (dros 7.5T) yn mynd drwy Stryd y Bont, i lawr y Stryd Fawr ac yn ymadael drwy Rhodfa’r Gogledd.

Gwnaed newidiadau hefyd i gyfyngiadau i ganiatáu mynediad gwell i Neuadd Farchnad Aberystwyth.

Mae Maer Aberystwyth, Charlie Kingsbury, wedi croesawu cynlluniau’r Cyngor Sir i adolygu’r trefniadau newydd yn barhaus.

Bydd eithriadau i’r gwaharddiad ar gerbydau modur yn y parthau hyn yn cynnwys y gwasanaethau brys a chwmnïau cyfleustodau ond dim ond ar gyfer gwaith diogelwch/mewn argyfwng.