Maer Aberystwyth yn cefnogi cynllun i gau strydoedd y dref

Cyngor Ceredigion am gau strydoedd yn nhrefi’r sir i gerbydau er mwyn creu parthau diogel i gerddwyr

Lleu Bleddyn
gan Lleu Bleddyn

Mae Maer tref Aberystwyth, Charlie Kingsbury, wedi dweud ei fod yn cefnogi cynlluniau Cyngor Sir Ceredigion i gau strydoedd yn nhrefi’r sir i gerbydau yn ystod y dydd.

Mae Cyngor Sir Ceredigion wedi cadarnhau bydd strydoedd yn Aberystwyth, Aberaeron, Aberteifi a Cei newydd yn cau rhwng 11 y bore – 6 yr hwyr bob dydd o ddydd Llun, Gorffennaf 13 ymlaen.

Mae’r Cyngor Sir yn gobeithio y bydd y trefniadau newydd yn creu parthau diogel i gerddwyr a chreu mwy o le tu allan i fân-werthwyr a’r sector lletygarwch fasnachu.

Er hyn mae Charlie Kingsbury wedi pwysleisio ei bod yn bwysig ymgynghori â busnesau a phobol leol.

“Dw i’n cytuno gyda’r Cyngor Sir mai iechyd yw’r flaenoriaeth”, meddai.

“Mae’n bwysig fod pobol yn ddiogel, ac yn gallu cadw pellter cymdeithasol er mwyn cadw cyfradd yr haint yn isel yn yr ardal.

“Er hyn, mae’n hanfodol fod unrhyw gynnig yn delio gyda phryderon trigolion a busnesau’r dref.”

Ailddiffinio llefydd i fasnachu

Yn ôl llefarydd ar ran Cyngor Sir Ceredigion bydd llefydd i fasnachu yn cael eu “hailddiffinio”.

“Bydd ein trefi’n edrych yn wahanol i sut y gwnaethant ychydig fisoedd yn ôl.

“Bydd y newidiadau yn golygu y gall busnesau ailagor yn ddiogel tra hefyd yn sicrhau iechyd a diogelwch trigolion ac ymwelwyr.”

Yn ogystal â chau ffyrdd i geir, bydd arwyddion yn cael eu gosod i annog ymbellhau cymdeithasol, a bydd dim celfi stryd ar balmentydd.

Mae Cyngor Sir Ceredigion yn gobeithio bydd modd iddynt roi’r trefniadau newydd yn eu lle mor “gyflym â phosib”.

Adolygu

Er bod Maer y dref yn cydnabod nad yw wedi gweld y cynnig mewn manylder, mae’n croesawu cynlluniau’r Cyngor Sir i adolygu’r trefniadau newydd yn barhaus.

“Mae’n bwysig fod pethau mewn lle yn barod ar gyfer unrhyw gynnydd sydd mewn ymwelwyr.

“Rydym ni fel Cyngor Tref yn croesawu fod y Cyngor Sir yn hapus i wrando, adolygu ac addasu’r cynllun.

“Dwi’n gobeithio bydd hyn yn golygu y bydd y mesurau newydd yn sicrhau hygyrchedd yn y dre.”

Charlie Kingsbury

Charlie yw Maer newydd Aberystwyth

Mererid

Mewn cyfarfod arlein, derbyniwyd y Cyng. Charlie Kingsbury fel Maer Aberystwyth 2020-2021

Bydd parthau diogel hefyd yn cael eu cyflwyno yn Aberporth, Borth, Llanbedr Pont Steffan a Thregaron yn yr wythnosau nesaf a bydd opsiynau yn cael eu archwilio ar gyfer Llandysul.