Mae Cyngor Sir Ceredigion wedi cadarnhau pa strydoedd fydd yn cau yn Aberystwyth er mwyn creu parthau diogel.
Bydd strydoedd yn Aberystwyth, Aberaeron, Aberteifi a Chei Newydd yn cau rhwng 11 y bore – 6 yr hwyr bob dydd o ddydd Llun, Gorffennaf 13 ymlaen.
Bydd parthau diogel hefyd yn cael eu cyflwyno yn Aberporth, Borth, Llanbedr Pont Steffan a Thregaron yn yr wythnosau nesaf a bydd opsiynau yn cael eu harchwilio ar gyfer Llandysul.
Dywedodd llefarydd ar ran Cyngor Sir Ceredigion: “Bydd y gofod a fydd yn cael ei greu drwy gael gwared â thraffig yn ystod y dydd yn caniatáu i’r cyhoedd symud yn ddiogel o fewn y parthau, a hefyd yn caniatáu i fasnachwyr a busnesau ddefnyddio mwy o’r ardal y tu allan.”
Ymgynghori â busnesau a phobol leol
Mae Maer tref Aberystwyth, Charlie Kingsbury eisoes wedi cefnogi cynlluniau Cyngor Sir Ceredigion i gau strydoedd yn nhrefi’r sir.
Er hyn mae Charlie Kingsbury wedi pwysleisio ei bod yn bwysig ymgynghori â busnesau a phobol leol.
“Dw i’n cytuno gyda’r Cyngor Sir mai iechyd yw’r flaenoriaeth”, meddai.
“Mae’n bwysig fod pobol yn ddiogel, ac yn gallu cadw pellter cymdeithasol er mwyn cadw cyfradd yr haint yn isel yn yr ardal.
“Er hyn, mae’n hanfodol fod unrhyw gynnig yn delio gyda phryderon trigolion a busnesau’r dref.”
Ailddiffinio llefydd i fasnachu
Yn ôl llefarydd ar ran Cyngor Sir Ceredigion bydd llefydd i fasnachu yn cael eu “hailddiffinio”.
“Bydd ein trefi’n edrych yn wahanol i sut y gwnaethant ychydig fisoedd yn ôl.
“Bydd y newidiadau yn golygu y gall busnesau ailagor yn ddiogel tra hefyd yn sicrhau iechyd a diogelwch trigolion ac ymwelwyr.”
“Bydd gwybodaeth yn cael ei rhannu â masnachwyr a perchnogion busnesau er mwyn sicrhau y gellir trefnu i dderbyn cyflenwadau.
“Fodd bynnag, cynghorir busnesau i wneud trefniadau i dderbyn cyflenwadau y tu allan i’r cyfnod cau, a dim ond pan na fydd hynny’n bosibl y dylid cysylltu â’r Cyngor i drefnu cymorth brys neu annisgwyl.”
Strydoedd fydd yn cau yn Aberystwyth rhwng 11 y bore a 6 yr hwyr:
1. Stryd Powell: o Stryd y Bont tua’r dwyrain am oddeutu 2 fetr
2. Lôn Gefn: o Stryd y Bont tua’r dwyrain am oddeutu 5 metr
3. Stryd y Frenhines: o Stryd y Bont i’r Ffynnon Haearn
4. Lôn Rhosmari: o Faes Iago i Stryd y Bont
5. Maes Iago: o’r Stryd Uchel i’r Stryd Fawr
6. Y Stryd Fawr: o Stryd y Castell i Stryd y Bont
7. Y Stryd Fawr Isaf: o Stryd y Castell i Faes Lowri
8. Stryd y Castell: o Stryd yr Efail i Stryd y Brenin
9. Y Stryd Newydd: o Faes Lowri i Heol y Wig
10. Stryd y Brenin: o Faes Lowri i Heol y Wig
11. Heol y Wig: o’r Stryd Fawr i Lan-y-môr
12. Y Porth Bach o Heol y Wig i Stryd y Popty
13. Stryd y Popty: o’r Stryd Fawr i Faes Alfred
14. Stryd Portland: o Stryd y Popty i Ffordd y Môr
15. Maes Alfred: o Stryd y Popty i Stryd y Gorfforaeth
16. Stryd y Gorfforaeth: o Ffordd y Môr i Faes Alfred
17. Ffordd y Môr: o Lan-y-môr i Sgwâr Owain Glyndŵr
18. Stryd y Baddon: o Ffordd y Môr tua’r dwyrain am oddeutu 5 metr
19.Stryd Portland: o Ffordd y Môr tua’r dwyrain am oddeutu 5 metr
20. Ffordd Portland: o Ffordd y Môr tua’r dwyrain am oddeutu 10 metr
21. Lôn Cambria: o Ffordd y Môr i’r Ffynnon Haearn
22. Stryd yr Undod: o Ffordd Alexandra i Lôn Cambria
23. Y Ffynnon Haearn: o’r Stryd Fawr i Ffordd Alexandra
Strydoedd fydd yn cau yn llwyr yn Aberystwyth
24. Rhodfa Fuddug: o Faes Albert tua’r gogledd i ddiwedd y ffordd
25. Ffordd yr Orsaf Heddlu: o Rodfa Fuddug i Forfa Fawr