“Siaradwch” – y Ffermwyr Ifanc yn cyhoeddi fideo am iechyd meddwl

Pwrpas y fideo yw lledaenu neges y Noson Iechyd Meddwl a gynhaliwyd ar ddiwedd mis Ionawr

Endaf Griffiths
gan Endaf Griffiths

Yn dilyn y Noson Iechyd Meddwl a gynhaliwyd gan Ffermwyr Ifanc Ceredigion, Sir Gâr a Sir Benfro ar ddiwedd mis Ionawr, mae fideo wedi’i gyhoeddi ar-lein er mwyn sicrhau bod neges hollbwysig y digwyddiad yn cael ei lledaenu.

Daeth tua 150 o bobol ynghyd yng Ngwesty’r Emlyn, Castellnewydd Emlyn ar Ionawr 31 er mwyn gwrando ar banel o siaradwyr a oedd yn cynnwys yr actor, ffermwr a chyflwynydd, Alun Elidyr, yr Hybarch Eileen Davies o Tir Dewi, ac Emma Picton-Jones o’r DPJ Foundation.

Prif neges y noson oedd na ddylai neb ddioddef mewn tawelwch a bod yna help i’w gael.

Mae modd gweld y fideo yn fan hyn…

 

Noson Iechyd Meddwl Ffermwyr Ifanc Ceredigion, Sir Gâr a Sir Benfro

“Rhaid lledaenu’r neges am bwysigrwydd iechyd meddwl”“Mae siarad yn bwysig ac mae yna help i’w gael” – dyna oedd prif neges digwyddiad iechyd meddwl a gynhaliwyd gan Ffermwyr Ifanc o dair sir y gorllewin ar ddiwedd mis Ionawr.“Talking is important and there is help out there” – that was the main message of a mental health event hosted by Young Farmers from Ceredigion, Carmarthenshire and Pembrokeshire at the end of January.Carms Yfc-Cffi Caerfyrddin Cffi Sirbenfro Pembrokeshire Yfc Tir Dewi The DPJ Foundation FUW Ceredigion CAVO Ceredigion Ffermio

Posted by Cffi Ceredigion Ceredigion Yfc on Wednesday, 12 February 2020