Sganiwr MRI newydd i Ysbyty Bronglais

Mererid
gan Mererid

Wedi blynyddoedd o aros, fe fydd y sganiwr MRI yn cyrraedd Aberystwyth dros y mis nesaf.

Fe fydd tipyn o effaith ar draffig ar Ffordd Caradog ym mis Ionawr pan fydd y Sganiwr MRI dros dro yn mynd yn ôl ac ymlaen i’r ysbyty mewn lori enfawr. Gall hyn fod yn hwyr yn y nos neu’n gynnar iawn yn y bore. Y peth gorau yw parcio ceir yn agos iawn at ymyl y palmant ar y dyddiadau hyn er mwyn sicrhau bod y lori yn gallu mynd trwodd heb darfu ar drigolion.

  • Maw Ion 7fed
  • Maw Ion 14eg
  • Gwe Ion 17eg
  • Sul Ion 19eg
  • Gwe Ion 24ain
  • Sul Ion 26ain
  • Gwe Ion 31ain
  • Sul Chwef 2il

Y gobaith yw y bydd Sganiwr MRI parhaol yn cael ei osod yn yr ysbyty yn fuan ym mis Chwefror.