Seren yr ystadegau yn paratoi at etholiad y senedd

Ffigurau, trydar, a gwleidyddiaeth – Lloyd Warburton sydd wedi bod yn sgwrsio â chylchgrawn Golwg

Gohebydd Golwg360
gan Ohebydd Golwg360
Golwg360

Mae’r disgybl ysgol Lloyd Warburton yn seren ar wefan Twitter ac – yn ôl ‘Y Mab Darogan’ ei hun – yn “ddarpar Brif Weinidog”.

Ers dechrau’r argyfwng coronafeirws mae’r llanc 16 oed wedi bod yn creu tablau a graffiau am ledaeniad yr haint yng Nghymru.

Pob dydd mae’n gosod y ffigurau ar ei wefan, ac yn eu trydaru, ac erbyn hyn mae ganddo dros 10,000 o ddilynwyr ar Twitter.

Mae Aelodau o’r Senedd yn ymateb i’w ddeunydd yn rheolaidd, mae hefyd yn ysgrifennu diweddariad wythnosol i BroAber360 am y sefyllfa yng Ngheredigion.

“Trwy gydol fy mywyd dw i wedi hoffi gwneud ystadegau, a mathemateg, a phethau fel’na,” meddai.

“Ac yn benodol, ystadegau am etholiadau.

“Roedd hwn yn gyfle i wneud rhywbeth newydd. Ro’n i’n arfer gwneud pethau bach anffurfiol i fy hun. Ond, yn amlwg, mae hwn yn gyhoeddus.

“Ym mis Rhagfyr wnes i greu llyfr bach gyda’r holl seddi ynddo fe yng Nghymru, a wnes i ysgrifennu’r [nifer yn pleidleisio] i mewn.

“Ond doeddwn i ddim wedi creu gwefan i fynd â hynny, a doeddwn i erioed wedi gwneud unrhyw beth digidol fel hynna o’r blaen.”

Yn sgil llwyddiant ei waith Covid-19, mae eisoes wedi dechrau paratoi at y dyfodol, ac mae’n gobeithio gwneud gwaith tebyg ar etholiad y Senedd y flwyddyn nesaf.

 

Darllenwch gyfweliad llawn Lloyd Warburton yng nghylchgrawn golwg neu ar golwg+