COVID-19: Y Sefyllfa yng Ngheredigion (09/06)

Chweched erthygl wythnosol gan Lloyd Warburton yn trafod sefyllfa COVID-19 yng Ngheredigion.

Lloyd Warburton
gan Lloyd Warburton

Lloyd Warburton ydw i, ac rydw i’n rhedeg y wefan https://coronaviruscymru.wales, sy’n dangos ystadegau ynglŷn â COVID-19 yng Nghymru mewn ffurf syml. Bob wythnos, rydw i hefyd yn ysgrifennu erthygl i BroAber_360 am y sefyllfa COVID-19 yng Ngheredigion.

Dros yr wythnos diwethaf, profodd 2 berson yng Ngheredigon yn bositif gyda COVID-19. Nawr mae gennym 44 achos (60.5 i bob 100k o breswylwyr). Yn ôl y Swyddfa Ystadegau Gwladol, doedd neb wedi marw yng Ngheredigion gyda COVID-19 rhwng 22/05 a 29/05. Golyga hyn fod 7 person o Geredigion bellach wedi marw gyda COVID-19 wedi’i gadarnhau neu ei amau: 4 mewn ysbyty, 2 gartref ac 1 mewn cartref gofal lan at 29/05. Gallwch weld y data yma.

Mae’n siomedig bod yna gynnydd yn nifer yr achosion, ond rydym yn dal y tu ôl i bob sir arall yng Nghymru. Mae llawer o brofi wedi bod yn digwydd yn y sir ers wythnos diwethaf, ac mae 1.95% o boblogaeth Ceredigion wedi cael prawf erbyn hyn. Dim ond Powys sydd wedi gwneud llai (1.91%). Mae 3.1% o brofion yng Ngheredigion wedi bod yn bositif, tipyn yn llai nag unrhyw sir arall.

Mae Ceredigion wedi bod yn lwcus iawn trwy gydol y pandemig, ond mae’r firws dal yn y sir. Mae hi’n dal yn bwysig ein bod ni’n cadw’n ddiogel ac yn ofalus. Mae’r rhan gyntaf o’r pandemig bron wedi gorffen. Y prif amcan nawr yw lleihau’r risg fod ail don yn ein taro yn y dyfodol agos.

Ffynhonnell yr holl ddata yn yr erthygl hon yw Iechyd Cyhoeddus Cymru a’r Swyddfa Ystadegau Gwladol. Mae nifer yr achosion yn gywir ar 08/06/2020 am 13:00 ac yn dod o ddangosfwrdd data ICC wedi’i ddiweddaru ar 09/06/2020 am 14:00. Mae nifer y marwolaethau yn gywir ar 29/05/2020 ac yn dod o ddata a gyhoeddwyd gan SYG ar 09/06/2020.