Gen i rhywbeth i’w ddweud

Bywyd wrth geisio osgoi’r corona firws

gan Medi James
Medi

Wryh gerdded o Glarach bore ma

 

Gan mod  lawr i olygu i Bro Aber wythnos yma dyma ysgogiad bach gen i gall fod yn ddifyr neu’n ddiflas i chi.

O leia mae hi’n fis Mawrth a d’yn ni’n gallu edrych ymlaen at Wanwyn a Haf a’r gobaith am dywydd braf. Meddyliwch sa hi’n fis Tachwedd.

Dwi’n gallu ymdopi, er mod i’m gorfod gwynebu mod i’n hen, ac yn y categori gofal. Felly gan mod i’n hen a’r term ‘deep clean ‘ yn cael ei glywed yn ddyddiol dyma gofio hen ymadrodd roedd fy mam a fy nain yn ei ddefnyddio a finnau erioed wedi ‘i ymarfer – Spring clean.  ‘Ni di bod yn Y Llofft ers tair blynedd a dwi ddim wedi ‘tynnu llwch’ ( gair Eirwen Gwynn pan oedd yn gymydog i ni yn Nhal-y-bont am ‘ddwsto’) oddiar y  shade golau yn ein stafell wely.  Un papur gwyn, rhad ond ‘rargol roedd wedi gwneud job dda o ddal y llwch. Mae’n barod nawr am y tair blynedd nesa.

Braf oedd cael e bost gan ferch o Belarws sy fel arfer yn cysylltu gyda cherdyn Dolig bob blwyddyn. Roedd yn holi amdanom ac yn cynnig galwad fideo ‘whats ap’ nes ymlaen yn yr wythnos. Dwi’n edrych ymlaen yn fawr. D’yw Belarws heb gau ‘i ffiniau eto ac mae P’n bryderus iawn am sut y gallant ddelio a’r firws yma. Fe ddaeth hi drosodd i Aberystwyth gyda rhai o blant sâl Chernobyl am wyliau mewn ardal braf ddiwedd yr 80au. Fel eu cyfieithydd bu’n aros gyda ni am y mis. Merch ifanc, garedig eithriadol o dlws tua 18 oed ac yn fyfyriwr Saesneg. Roedd yn dawel a chwrtais ac yn ofalgar iawn o’r plant yn eu gofal. Ond mi roedd na gysgod ar ei gwyneb main. Dywedodd wrthaf un bore wrth redeg am y tŷ bach ar ôl brecwast ei bod yn feichiog – ers gadael Minsk – ei phrif ddinas. Wps! mawr. Doedd fiw iddi ddweud wrth neb gan na ddylai fod wedi gadael Belarws heb sôn am gymryd cyfrifoldeb criw o blant yn eu harddegau. Fe gadwon y gyfrinach iddi. Bellach mae ei merch 30 oed wedi graddio ac yn gweithio, daeth chwaer fach i’w dilyn. Yn ôl y lluniau mae’r merched a’i mam yn hardd a chawr o dad caredig

O fod yn iach, ar hyn o bryd, mae’n lled hawdd wynebu’r dyddiau, du caeth ‘ma. Y ffordd dwi’n gwneud hyn ydy gwrando/gwylio dau fwletin newyddion y dydd, bore a nos, ac ymdopi drwy wynebu’r dyfodol bythefnos ar y tro. Ac yn clywed Mair Ioga’n dweud ma’r unig beth sy’n sicr ydy’r eiliad ni’n byw ynddo nawr.

1 sylw

Sue jones davies
Sue jones davies

Medi, ti wedi codi llawer o atgofion am plant Chernobyl. Dwi wastad yn meddwl beth ddigwyddodd iddyn nhw i gyd.Bu rhai o’u bywydau mor fyr ond dwi’n cofio llawer o chwerthin a chael hwyl.Roedden nhw wir yn byw yn y foment.Roedden nhw mor ddewr.

Mae’r sylwadau wedi cau.