“Peidiwch anghofio am siopau lleol” apêl Siop a Chaffi Cletwr i gwsmeriaid

Pryder bod cwsmeriaid yn dychwelyd i’w hen arferion o siopa mewn archfarchnadoedd.

Gohebydd Golwg360
gan Ohebydd Golwg360

Mae Siop a Chaffi Cletwr, menter gymunedol ddi-elw a redir gan wirfoddolwyr yn Nhre’r Ddôl, wedi apelio ar bobol i beidio troi eu cefnau ar siopau lleol, ac i beidio anghofio amdanyn nhw wrth i gyfyngiadau’r coronafeirws gael eu llacio.

Dywedodd Karen Evans, Rheolwr Busnes Cletwr, wrth Golwg360 bod cwymp amlwg wedi bod yn y nifer o bobol sydd yn siopa yn lleol dros yr wythnosau diwethaf.

“Mae’n bwysig bod pobol yn cofio’r bobol nath roi bwyd iddyn nhw yn yr amseroedd caled yma, a pheidio mynd nôl i archfarchnadoedd”, meddai.

“Yn ariannol byddem ni siŵr wedi bod yn well yn cau’r busnes ers y dechrau, ond nid dyna ethos Cletwr, rydym ni’n edrych ar ôl ein cymuned.”

Eglurodd Aaron Glover, Cynorthwy-ydd Busnes Siop a Chaffi Cletwr ei bod nhw’n gwneud colled o oddeutu £500 yr wythnos ers i’r cyfyngiadau gael eu rhoi mewn lle.

“Heb y caffi mae’r costau wedi cynyddu – er ein bod ni’n dal i fynd rydym ni’n colli arian, hyd at £500 yn wythnosol”, meddai Aaron Glover.

Dros y misoedd diwethaf doedd dim dewis gan Siop a Chaffi Cletwr felly ond gwario £5,000 o gronfa argyfwng oedd gan y busnes wrth gefn.

Mae’r fenter gymunedol yn ddibynnol ar wirfoddolwyr, ond gan fod mwyafrif o’r gwirfoddolwyr dros 70 oed doedd dim dewis gan Siop a Chaffi Cletwr ond gofyn iddyn nhw gadw draw.

Mae’r busnes hefyd yn cyflogi 20 o bobol, ac mae mwyafrif o’r gweithwyr wedi eu rhoi ar gynllun gwarchod swyddi’r Llywodraeth.

Yn ddibynnol ar ganllawiau pellach gan Lywodraeth Cymru mae’r Siop a Chaffi Cletwr yn gobeithio bydd modd i rai o gogyddion a staff ddychwelyd yn raddol i’r gwaith dros y misoedd nesaf.

Taflu cynnyrch ffres

“Mawr ydy ein diolch ni i gyflenwyr lleol,” meddai Karen Evans.

“Mae llawer mwy o ddewis yn y siop erbyn hyn, yn arbennig ffrwythau a llysiau ffres, a chig o gigyddion lleol.”

Er hyn mae rheolwr Siop a Chaffi Cletwr yn pryderu bydd dim dewis gan rai cyflenwyr ond taflu bwyd os bydd gostyngiad pellach yn y galw.

“Mae un o’n cyflenwyr ni sy’n tyfu llysiau wedi ymateb i’r hyn oedd yn digwydd fis Mawrth, ac mae wedi plannu mwy i ateb y galw.

“Ar ddechrau’r cyfnod yma roeddem yn gwerthu 48 o fagiau salad yr wythnos, mae bellach lawr i 24.”

“Mae’n bosib bydd dim dewis ganddi ond taflu’r cynnyrch, a bydd yr holl fwyd ffres yn mynd yn wast.”

Ychwanegodd Karen Evans mae iechyd a diogelwch cwsmeriaid yw’r flaenoriaeth o hyd.

Mae hylif hylendid ar gael i’w ddefnyddio, ac mae rheol dim mwy na 3 person yn y siop mewn lle er mwyn ceisio lleihau lledaeniad y feirws.

Grant o £10,000

Mae Nigel Callaghan, Cadeirydd Cwmni Cletwr wedi diolch i Elin Jones, Aelod y Senedd dros Geredigion, ac Ellen Ap Gwynn, arweinydd Cyngor Sir Ceredigion, am eu cefnogaeth er mwyn sicrhau grant i’r fenter gymunedol.

“Rydym wedi derbyn grant o £10,000 gan Lywodraeth Cymru, diolch i dipyn o ymgyrchu gan Elin Jones ac Ellen ap Gwynn, ymhlith llawer”, meddai.

“Doedd busnesau di-elw ddim yn gymwys am y grant gwreiddiol. Felly, rydyn ni’n ddiogel am y tro, ond ddim am byth.”

Darllenwch gyfweliad llawn Nigel Callaghan, Cadeirydd Siop a Chaffi Cletwr yn rhifyn diweddaraf Papur Pawb sydd ar gael i’w ddarllen yn ei gyfanrwydd ar Bro360.