Parc Chwarae Penparcau yn ail agor

Gwelliannau i barc chwarae Penparcau wedi ei cwblhau, a’r parc ar agor erbyn hyn, a dros y gwyliau.

Mererid
gan Mererid

Dros y penwythnos, roedd dathlu mawr ym Mhenparcau gan fod parc chwarae Penparcau wedi ail-agor. Mewn cyfarfod o Gyngor Tref Aberystwyth ar nos Lun (14/12/2020) trafodwyd y byddai’r parc ar agor dros y gwyliau ond y byddai adolygiadau parhaol ei fod yn cydymffurfio i ddiogelu’r cyhoedd rhag COVID.

Mae Cyngor Tref Aberystwyth wedi cytuno i gyllido gwelliannau ar gyfer y parc ers dros 4 mlynedd (2017), ond am amrywiol reswm, nid oedd modd gwneud y gwaith. Roedd angen delio gyda’r tir yn gyntaf, gan fod diffyg draeniad yn golygu bod llawer o ddŵr yn casglu, ac yn creu mwd.

Dywedodd y Cynghorydd Steve Davies: –

“Mae’n dda iawn gweld arian y trethdalwyr yn cael ei ddefnyddio yn synhwyrol, gan fod cymaint o alw am welliannau i’r parc. Mae’r amseru hefyd yn dda fod y parc wedi gallu ail-agor, a bydd yn gymaint o help i deuluoedd yr ardal dros y Nadolig a’r Flwyddyn Newydd i gael lle blant chwarae.”

Penparcau

Mae’r gwelliannau yn cynnwys ail wneud yr offer a rhoi llawr pwrpasol sydd yn dal dŵr. Mae hyn yn ymateb i’r ddeiseb a gyhoeddwyd ym mis Hydref lle arwyddodd 352 o unigolion ynglŷn â’r angen i wella’r offer.