Newidiadau i orsafoedd pleidleisio Ceredigion

Cwmystwyth, Blaenpennal a Chapel Tyngwndwn yn Nhalsarn i uno â gorsafoedd pleidleisio cyfagos

Gohebydd Golwg360
gan Ohebydd Golwg360

Gorsaf bleidleisio Blaenpennal (llun Mari Elin)

Yn dilyn adolygiad gan Gyngor Ceredigion bydd gorsafoedd pleidleisio Cwmystwyth, Blaenpennal a Chapel Tyngwndwn yn Nhalsarn yn uno â gorsafoedd cyfagos.

Yn ddiweddar fe gymeradwyodd cynghorwyr yng Ngheredigion adolygiad o orsafoedd pleidleisio yn y sir. Dywedodd Eifion Evans, y Swyddog Canlyniadau Gweithredol ei bod nhw wedi ymweld â phob gorsaf bleidleisio fel rhan o’r adolygiad a’i fod yn “hyderus mai’r lleoliadau yma yw’r rhai mwyaf effeithiol i bleidleiswyr a staff etholiadol.”

 

Gorsafoedd fydd hefyd yn newid lleoliad:

  • Ward Canol Aberystwyth – Gorsaf bleidleisio i symud o adeilad y Band Arian, Coedlan y Parc i Fyddin yr Iachawdwriaeth, Ffordd Alexandra.
  • Ward Rheidol Aberystwyth – Gorsaf bleidleisio i symud o adeilad y Band Arian, Coedlan y Parc i Dŷ’r Harbwr, Y Lanfa.
  • Gorsaf bleidleisio i symud o’r hen ysgol yn Cross Inn ger Llanon, i’r hen ysgol, Pennant ger Llanon.
  • Caiff y Feithrinfa yn Ysgol Gynradd Gymunedol Comins-coch ei defnyddio yn hytrach na’r ysgol.
  • Gorsaf bleidleisio i symud o Ysgol Trewen i Festri Capel Bryngwyn.
  • Gorsaf bleidleisio i symud o Gaffi Sali Mali i Festri Capel Bronant.

 

Etholiadau nesaf:

Etholiad Comisiynwyr yr Heddlu a Throseddu – Dydd Iau, Mai 7 2020.

Etholiad Cynulliad Cenedlaethol Cymru – Dydd Iau, Mai 6 2021.