gan
Ohebydd Golwg360
Caewyd yr A487 drwy bentref Blaenplwyf am gyfnod brynhawn dydd Llun (Mehefin 1) ar ôl i gar fynd ar dân mewn arhosfan bysiau yng nghanol y pentref.
Roedd y gwasanaethau brys yn bresennol.
Er i’r gwasanaeth tân lwyddo i ddiffodd y tân roedd y car wedi ei ddifrodi yn llwyr.
Cadarnhaodd Heddlu Dyfed Powys na anafwyd unrhyw un yn y digwyddiad, bod y tân wedi ei ddiffodd a bod yr arhosfan bysiau bellach wedi ei glirio.