“Dwi’n meddwl bod llwyddiant y wefan yn dystiolaeth o’r galw am gymorth iechyd meddwl drwy gyfrwng y Gymraeg.”

Sgwrs gyda Manon Elin James, un o sefydlwr gwreiddiol gwefan Meddwl.org

Gohebydd Golwg360
gan Ohebydd Golwg360

Ers 2016, mae criw o wirfoddolwyr wedi gweithio i greu gwefan Meddwl.org, sy’n darparu gwybodaeth am amryw o faterion iechyd meddwl, drwy gyfrwng y Gymraeg.

Mae’r wefan yn blatfform cynhwysol sy’n galluogi pobl i rannu eu profiadau, codi ymwybyddiaeth a lleihau’r stigma.

Yr wythnos hon, daw carreig filltir bwysig i’r sefydliad, wrth iddynt gael eu cydnabod fel elusen gofrestredig – y cyntaf o’r fath yng Nghymru.

Mewn sgwrs gyda BroAber360, mae un o sefydlwr gwreiddiol y wefan, Manon Elin James sy’n wreiddiol o Gaerfyrddin ond sydd bellach wedi ymgartrefu yn Aberystwyth, wedi bod yn trafod y siwre. 

Mynd i’r afael a’r broblem

“Y bwriad wrth sefydlu’r wefan nôl yn 2016 oedd ceisio mynd i’r afael â’r diffyg gwybodaeth, adnoddau a chymorth iechyd meddwl oedd ar gael yn Gymraeg ar y We,” meddai Manon.

“Roedd rhywfaint o ddeunydd Cymraeg eisoes ar wefannau gwahanol,” eglurai, “ond roedd y wybodaeth yn bytiog ac ar wasgar.

O ystyried bod siarad a chyfathrebu yn rhan “mor ganolog o therapi a’r broses o wella,” dywedodd ei bod hi’n hanfodol sicrhau’r ddarpariaeth o wasanaethau iechyd meddwl cyfrwng Cymraeg.

“Mae trafod eich meddyliau mwyaf tywyll a chymhleth yn ddigon anodd beth bynnag,” meddai, “heb y rhwystr diangen o orfod gwneud hynny yn eich ail iaith.

“Dwi’n meddwl bod llwyddiant y wefan yn dystiolaeth o’r galw am gymorth iechyd meddwl drwy gyfrwng y Gymraeg.”

Manon Elin James

Codi ymwybyddiaeth o gyflyrau llai cyffredin

“Mae tuedd weithiau i bobl feddwl am iselder a gorbryder yn unig wrth drafod anhwylderau iechyd meddwl,” eglurai Manon.

“Mae’n galonogol iawn bod mwy o sôn am y cyflyrau hynny yn ddiweddar, ond mae tipyn o ffordd i fynd o ran codi ymwybyddiaeth a gwella dealltwriaeth ynghylch cyflyrau a symptomau llai cyffredin.

Dywedodd bod hynny’n un o gryfderau’r wefan, sy’n trafod amrywiaeth eang o faterion sy’n ymwneud ac iechyd meddwl.

“Dwi’n byw gyda dadwireddu,” meddai, “sy’n symptom nad oes llawer o drafod ohono, felly dwi’n deall pa mor rhwystredig yw e pan nad yw eich profiad chi yn cael ei gydnabod.

“Dwi hefyd yn deall gymaint o gysur yw sylweddoli bod pobl eraill yn profi’r un peth ac yn gallu uniaethu’n llwyr gyda gwybodaeth.

“Nadolig yn gallu bod yn gyfnod anodd”

“Mae’r Nadolig yn gallu bod yn gyfnod anodd iawn am amryw o resymau, yn enwedig eleni pan nad yw pobl yn gallu bod gyda’u teuluoedd ac… neu… yn galaru,” meddai Manon Elin James.

“Fy nghyngor i fyddai i beidio cymharu eich Nadolig chi gyda Nadolig pobl eraill.

“Gwnewch beth rydych chi’n gyfforddus yn ei wneud, a chofio ei fod yn hollol iawn i beidio â mwynhau’r Nadolig.

“Os yw trin diwrnod Nadolig fel unrhyw ddiwrnod arferol arall yn haws i chi – gwnewch hynny heb deimlo’n euog.

“Cymrwch bethau un awr ar y tro, a byddwch yn garedig gyda’ch hun.”

Mae modd darllen mwy fan hyn.