Llwybr newydd rhwng IBERS a Phenrhyn-coch

Mae’r gwaith o adeiladu llwybr cerdded a seiclo rhwng Bow Street a Phenrhyn-coch wedi dechrau.

Gohebydd Golwg360
gan Ohebydd Golwg360
Adeiladu llwybr cerdded a seiclo Penrhyn-coch - Llun Golwg360

Adeiladu llwybr cerdded a seiclo Penrhyn-coch – Llun Golwg360

Mae’r gwaith o adeiladu llwybr cerdded a seiclo rhwng Bow Street a Phenrhyn-coch wedi dechrau.

Y llynedd cafodd y cam cyntaf ei gwblhau, sef llwybr newydd i feicwyr a cherddwyr rhwng Bow Street ac IBERS.

Mae Cyngor Sir Ceredigion wedi sicrhau arian grant yn ystod y flwyddyn ddiwethaf gan Gronfa Teithio Llesol Llywodraeth Cymru i gysylltu’r llwybr â Phenrhyn-coch.

Bydd y llwybr newydd yn cael ei adeiladu yn unol â Chanllawiau Dylunio Llywodraeth Cymru ar gyfer Teithio Llesol, ac yn cysylltu Penrhyn-coch â datblygiad newydd Campws Arloesi a Menter Aberystwyth ym Mhlas Gogerddan.

Ibers Prifysgol Aberystwyth - Llun Golwg360
Ibers Prifysgol Aberystwyth – Llun Golwg360

Dywedodd y Cynghorydd Dafydd Edwards, yr Aelod o’r Cabinet dros Briffyrdd a Gwasanaethau Amgylcheddol, a Thai:

“Mae’r datblygiadau hyn yn newyddion gwych i gymunedau Penrhyn-coch a Bow Street oherwydd bydd y cynllun yn eu cysylltu’n well â gwasanaethau, cyfleusterau a gwaith yn lleol.

“Bydd y llwybr yn cysylltu Penrhyn-coch â datblygiad newydd Campws Arloesi a Menter Aberystwyth ym Mhlas Gogerddan, a fydd yn cael ei gwblhau erbyn mis Awst 2020.

“Bydd y llwybr hefyd yn cysylltu â Gorsaf Reilffordd Bow Street, y mae disgwyl iddi gael ei chwblhau ym mis Hydref eleni.

“Mae cynlluniau o’r math hwn yn helpu pobl i wneud llai o siwrneiau yn y car, gan gyfrannu’n gadarnhaol at leihau newid hinsawdd ac allyriadau CO2 a hefyd galluogi ein trigolion i fyw bywydau iachach a mwy llesol.”

Pa effaith bydd hyn yn ei gael ar y clawdd? 

O dan gyfarwyddyd Ecolegydd Priffyrdd y Cyngor bydd rhan fwyaf o’r clawdd yn cael ei symud neu’n cael ei dorri’n isel er mwyn sbarduno’i thwf y flwyddyn nesaf.

Bydd 150 metr clawdd newydd hefyd yn cael ei blannu ar hyd ochr y llwybr lle nad oes un ar hyn o bryd

 

Ymateb cymysg i orsaf newydd Bow Street

Gohebydd Golwg360

Croeso a gwrthwynebiad i’r cynllun gwerth £8 miliwn