Ymateb cymysg i orsaf newydd Bow Street

Croeso a gwrthwynebiad i’r cynllun gwerth £8 miliwn

Gohebydd Golwg360
gan Ohebydd Golwg360

Ken Skates yn ymweld a’r safle Ionawr 13 – Llun Trafnidiaeth Cymru

Cymysg yw’r ymateb lleol i’r ffaith fod Trafnidiaeth i Gymru wedi dechrau gweithio ar yr orsaf reilffordd newydd gwerth £8 miliwn yn Bow Street.

Fe fydd yr orsaf, sy’n cael ei chodi gydag £8 miliwn o arian Llywodraeth Cymru a’r Adran Drafnidiaeth, yn agor i deithwyr ddiwedd y flwyddyn a’r gobaith yw y bydd yr orsaf newydd yn lleihau tagfeydd ar ffyrdd i mewn i Aberystwyth.

Ond er bod Ken Skates, yr Ysgrifennydd tros yr Economi a Thrafnidiaeth yn dweud y bydd yr orsaf yn “gwella cysylltiadau at gyfleusterau cyflogaeth, busnes, addysg a hamdden yng Nghanolbarth Cymru”, dyw pawb ddim yn cytuno.

 

“No Station” wedi ei baentio ar wal ger tŷ Hefin Jones

“No Station”

Mae Hefin Jones sydd yn byw ger safle’r orsaf newydd wedi dangos ei deimladau yn glir, a hynny drwy baentio “No Station” mewn llythrennau anferth ar wal ger ei dŷ.

Dywedodd wrth Bro Aber 360 ei fod wedi prynu’r tŷ saith mlynedd yn ôl, a bod y cynlluniau yma wedi amharu’n fawr ar ei fywyd.

“Mae’n anodd parhau i wneud gwelliannau i’r tŷ, a hynny gan fod gymaint o gwestiynau yn dal heb eu hateb” meddai.

Eglurodd mai’r tro cyntaf iddo glywed am y cynllun oedd pan ddaeth rhywun i’r tŷ i wneud holiadur, “Doedd dim llythyr, dim eglurhad, dim byd. Roedd yr holl beth yn anghredadwy, doedden nhw heb ystyried sut byddai’r cynllun yn effeithio arna i o gwbl.”

Roedd yr awdurdodau hefyd wedi gwrthod ei gais i’r orsaf rannu’r un fynedfa â warws cwmmi deunyddiau adeiladu Huws Gray, newid a fyddai wedi “lleihau’r effaith ar ei gartref yn fawr”.

Cynlluniau gwreiddiol Cyfnewidfa Bow Street a’r gylchfan – Llun Trafnidiaeth Cymru / The Urbanists

Dim cylchfan yn bryder

Fe fyddai gwella’r ffordd fawr yn well ateb na gorsaf, yn ôl y cyn gynghorydd lleol Vernon Jones sydd wedi byw yn yr ardal ers bron i 80 o flynyddoedd.

“Mae bws bob awr eisoes yn mynd i Aberystwyth” meddai, gan godi pryder hefyd am ddiogelwch y ffordd i mewn i’r orsaf.

“Mae’r cyngor wedi bod yn ymgyrchu ers blynyddoedd i gael cylchfan ar y gyffordd rhwng yr A487 a’r A4159, a gyda llif traffig ychwanegol i faes parcio newydd yr orsaf, mae’n gwneud mwy o synnwyr nag erioed i gael cylchfan yno.”

Yn wreiddiol roedd y cyngor bro wedi cefnogi’r datblygiad gan fod cylchfan yn rhan o’r cynllun. Ond mae’r cynlluniau wedi newid ers hynny a fydd yna ddim cylchfan.

Cynlluniau
Cynlluniau diweddaraf Cyfnewidfa Bow Street – Llun Trafnidiaeth Cymru / Chandler KBS

Cynghorwyr o blaid

“Mae cyfnewidfa Bow Street yn ben llanw blynyddoedd o waith caled” meddai’r cynghorydd lleol Paul Hinge. “Bydd y cynllun yn sicrhau swyddi ac yn darparu cyfleuster y mae ei angen yn fawr yng ngogledd Ceredigion,” meddai.

“Mae’r orsaf yn darparu mynediad cynaliadwy i Aberystwyth a thu hwnt,” meddai Dafydd Edwards, y cynghorydd sy’n gyfrifol am drafnidiaeth yng Nghyngor Ceredigion.

Ac mae’r Aelod Cynulliad  Elin Jones hefyd yn cefnogi: “Mae nifer o bobl yng ngogledd Ceredigion yn edrych ymlaen at agoriad orsaf trenau Bow Street,” meddai. “Fe fydd yr orsaf yn lleihau pwysau traffig ar Aberystwyth, ac yn sicrhau bod opsiynau ychwanegol ar gael i ddefnyddio trafnidiaeth gyhoeddus yn yr ardal.”

 

Manylion y cynllun

Bydd ‘cyfnewidfa drafnidiaeth’ Bow Street yn cynnwys:

  • Gorsaf drenau
  • 70 o lefydd parcio
  • Arhosfan bws
  • Mannau storio beics