120 hectar o dir wedi ei ddifrodi yng nghwm Einion

Mae’r tân ger Llyn Conach bellach wedi ei ddiffodd.

Gohebydd Golwg360
gan Ohebydd Golwg360

Llun Gwasanaeth Tân Machynlleth

Yn ôl Cyfoeth Naturiol Cymru a’r Gwasanaeth Tân ac Achub mae 120 hectar o dir wedi ei ddifrodi yn dilyn tân yng Nghwm Einion rhwng Tal-y-bont a Ffwrnais.

Yn wreiddiol roedd y Gwasanaeth Tân ac Achub wedi amcangyfrif mai 64 hectar o dir oedd wedi ei ddinistrio ger Ffwrnais yng Ngheredigion, ond o ganlyniad i dywydd sych fe ymledodd y tân a bu rhaid defnyddio hofrennydd geisio rheoli’r fflamau.

Yn ôl llefarydd ar ran Cyfoeth Naturiol Cymru mae’r tân a gafodd ei ddechrau ar y glaswelltir ger Llyn Conach bellach wedi ei ddiffodd.

“Mae’n ymddangos bod y tân wedi dechrau ar dir y glaswelltir ger Llyn Conach, ac yna wedi ymledu i goedwigaeth gyfagos Ystâd Goetir Llywodraeth Cymru sy’n cael ei rheoli gan Gyfoeth Naturiol Cymru.

“Mae’r tân bellach wedi stopio llosgi a bydd ein staff yn asesu’r difrod i’r ardal, gan gynnwys difrod i safle o ddiddordeb gwyddonol arbennig.

“Mae tanau gwyllt yn gallu achosi difrod ofnadwy i gymunedau lleol, bywyd gwyllt a’r amgylchedd.

“Gyda’r argyfyngau hinsawdd a natur barhaus, dyma’r peth olaf sydd ei angen ar dirwedd Cymru.”

‘Trasiedi’

Mae lle i gredu bod y tân wedi cael ei gynnau’n fwriadol ger Llyn Conach, ac mae Heddlu Dyfed Powys wedi dechrau ymchwilio i’r digwyddiad.

Dywedodd y Sarjant Marc Davies o Heddlu Dyfed-Powys “mae’n drasiedi gweld y dinistr a’r niwed i fywyd gwyllt a’r amgylchedd.”

“Nid yn unig y mae’r tanau hyn yn peri risg sylweddol i ddiogelwch ein cymunedau, ond rydym yn gweld yma fod safle bywyd gwyllt o ddiddordeb gwyddonol arbennig, o bwys cenedlaethol yn cael ei ddinistrio.

“Os oes gennych unrhyw wybodaeth a all ein helpu i adnabod y bobol hynny sy’n gyfrifol am y tân hwn, cysylltwch â ni.”

Heddlu’n ymchwilio i dân yng Nghwm Einion

Gohebydd Golwg360

Mae’r tân yn llosgi ers prynhawn dydd Sul (Mai 17)