Heddlu’n ymchwilio i dân yng Nghwm Einion

Mae’r tân yn llosgi ers prynhawn dydd Sul (Mai 17)

Gohebydd Golwg360
gan Ohebydd Golwg360

Llun Dylan Morgan

Mae criwiau Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru a Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru yn mynd i’r afael â thân mawr yng Nghwm Einion ger Ffwrnais sydd wedi bod yn llosgi ers prynhawn dydd Sul (Mai 17).

Mae criwiau Tân o Aberystwyth, Machynlleth, Llandrindod, Llanfair Caereinion ac Aberdyfi yn bresennol, ac yn parhau i frwydro’r tân.

Yn ôl ffermwr lleol roedd rhaid i’r gwasanaeth tân ddefnyddio hofrenydd i geisio rheoli’r fflamau.

Er hyn mae difrod sylweddol eisoes wedi’i achosi i’r goedwig sydd dan reolaeth Cyfoeth Naturiol Cymru, yn ogystal â safle bywyd gwyllt o bwysigrwydd cenedlaethol.

Mae lle i gredu bod y tân wedi cael ei gynnau’n fwriadol ger Llyn Conach, ac mae Heddlu Dyfed Powys wedi dechrau ymchwilio i’r digwyddiad.

Maen nhw’n apelio am wybodaeth.

‘Trasiedi’

“Nid yn unig y mae’r tanau hyn yn peri risg sylweddol i ddiogelwch ein cymunedau, ond rydym yn gweld yma fod safle bywyd gwyllt o ddiddordeb gwyddonol arbennig, o bwys cenedlaethol yn cael ei ddinistrio,” meddai’r Sarjant Marc Davies o Heddlu Dyfed-Powys.

“Mae modd osgoi’r tanau anghyfreithlon hyn yn llwyr ac mae’n drasiedi gweld y dinistr a’r niwed i fywyd gwyllt a’r amgylchedd.

“Os oes gennych unrhyw wybodaeth a all ein helpu i adnabod y bobol hynny sy’n gyfrifol am y tân hwn, cysylltwch â ni.”

llun4-1

Tân ger Ffwrnais yn dinistrio 64 hectar

Gohebydd Golwg360

Mae Gwasanaeth Tân ac Achub o bob rhan o Ganolbarth Cymru yn parhau i geisio diffodd tân gwair rhwng Aberystwyth a Machynlleth.