Gruff Rhys fydd yn derbyn gwobr Cyfraniad Arbennig yn seremoni Gwobrau’r Selar eleni.
Mae’r wobr yn cael ei roi’n flynyddol gan Wobrau’r Selar i gerddor sydd wedi gwneud cyfraniad mawr i’r sîn Gymraeg dros gyfnod hir o amser, ac sy’n dal i wneud.
Bydd ei gyfraniad yn cael ei ddathlu yn noson Gwobrau’r Selar yn Stiwdio Canolfan y Celfyddydau Aberystwyth nos Iau, Chwefror 13, lle bydd e’n cael ei holi gan Huw Stephens ac yn perfformio nifer o’i ganeuon.
Bydd y cerddor sydd yn dod yn wreiddiol o Fethesda yn ymuno â rhestr sy’n cynnwys Pat a Dave Datblygu, Geraint Jarman, Heather Jones, a Mark Roberts a Paul Jones (Y Cyrff, Catatonia, Y Ffyrc).
Gwobrau’r Selar yn dychwelyd i Aberystwyth
Undeb y Myfyrwyr fydd lleoliad y gwobrau eto eleni ar benwythnos 14-15 Chwefror, gyda dwy noson o gerddoriaeth yng nghwmni bandiau ac artistiaid bywiocaf a mwyaf llwyddiannus y flwyddyn ddiwethaf.
Ers 2014, Aberystwyth fu cartref y digwyddiad, yn gyntaf yn y Neuadd Fawr, cyn symud i leoliad mwy o faint Undeb Myfyrwyr Aberystwyth yn 2015.
Darllenwch fwy am y digwyddiad yma
‘Un o gerddorion Cymraeg pwysicaf ei genhedlaeth’
Fel drymiwr gyda’r band Machlud y dechreuodd Gruff Rhys ei yrfa fel cerddor, ac fe aeth yn ei flaen i fod yn aelod o’r band Emily.
Roedd yn un o aelodau gwreiddiol Ffa Coffi Pawb yn 1986.
Pan ddaeth Ffa Coffi Pawb i ben yn 1993, ffurfiodd Super Furry Animals ynghyd â Dafydd Ieuan a’i frawd Cian Ciaran, Huw Bunford a Guto Pryce.
Rhys Ifans, yr actor, oedd canwr gwreiddiol y band.
Daeth y band yn un o fawrion y sîn gerddoriaeth o fewn dim o dro, gan ganu yn Saesneg yn bennaf ond roedden nhw’n dal i hybu’r Gymraeg ar draws y byd.
Fe gyrhaeddodd eu halbwm uniaith Gymraeg, Mwng, rif 11 yn siartiau albwm Prydain yn 2000.
Yr Atal Genhedlaeth, oedd cynnyrch unigol cyntaf Gruff Rhys a ryddhawyd yn Ionawr 2005.
Ers hynny mae wedi rhyddhau pum albwm unigol arall, gyda’r diweddaraf, Pang!, unwaith eto’n record gyfan gwbl Gymraeg.