Gwobrau’r Selar i ddychwelyd i Aber

Owain Schiavone
gan Owain Schiavone
Y Selar

Bydd un o ddigwyddiandau blynyddol mwyaf y calendr cerddoriaeth Gymraeg gyfoes yn dychwelyd i Aberystwyth unwaith eto fis Chwefror eleni.

Gwobrau’r Selar ydy’r gwobrau cerddorol blynyddol a gynhelir gan gylchgrawn Y Selar ac mae digwyddiad gwobrwyo byw wedi eu cynnal yn flynyddol ers 2013.

Ers 2014, Aberystwyth fu cartref y digwyddiad, yn gyntaf yn y Neuadd Fawr, cyn symud i leoliad mwy o faint Undeb Myfyrwyr Aberystwyth yn 2015.

Undeb y Myfyrwyr fydd lleoliad y gwobrau eto eleni ar benwythnos 14-15 Chwefror, gyda dwy noson o gerddoriaeth yng nghwmni bandiau ac artistiaid bywiocaf a mwyaf llwyddiannus y flwyddyn ddiwethaf.

Wythnos diwethaf, cyhoeddwyd manylion yr union fandiau fydd yn perfformio yng Ngwobrau’r Selar eleni, a bydd 5 o artistiaid cyfoes gorau Cymru’n perfformio ar y naill noson a’r llall.

Gig Nos Wener

Bydd gig nos Wener yn cynnwys y band enillodd bump gwobr yng Ngwobrau’r Selar llynedd, ac sydd wedi mynd o nerth i nerth ers hynny, Gwilym.

Grŵp arall hynod boblogaidd, a ryddhaodd eu halbwm cyntaf ddiwedd 2019, fydd yn perfformio ydy Fleur de Lys.

Band arall sydd wedi tyfu mewn poblogrwydd ers cipio gwobr ‘Band neu Artist Newydd Gorau’ Gwobrau’r Selar llynedd ydy Lewys, ac yn ymuno â hwythau ar y nos Wener bydd Elis Derby a’r grŵp ifanc cyffrous, Dienw.

Amrywiaeth

Gellid disgrifio lein-yp gig nos Wener fel un o fandiau ‘poblogaidd’ – grwpiau fydd yn gyfarwydd iawn i wrandawyr rheolaidd Radio Cymru er enghraifft. Os felly, yna mae lein-yp nos Sadwrn yn un sy’n dathlu’r amrywiaeth anhygoel sydd gennym yn canu’n y Gymraeg ar hyn o bryd.

Un o’r grwpiau sydd wir wedi sefydlu eu hunain yn 2019, gan ryddhau eu halbwm cyntaf, ydy Los Blancos, a nhw ydy’r prif enw ar gyfer nos Sadwrn Gwobrau’r Selar.

Mae’r grŵp hip-hop o Gaernarfon, 3 Hwr Doeth, hefyd wedi rhyddhau albwm ar ddiwedd y flwyddyn a hwy fydd prif gefnogaeth y nos Sadwrn. Dyma fydd y tro cyntaf iddynt berfformio yn Aberystwyth, a bydd cryn edrych ymlaen diolch i’w perfformiadau byw prin, ond chwedlonol hyd yma.

Yr artistiaid sy’n cwblhau lein-yp ail noson y Gwobrau ydy Papur Wal a ryddhaoedd eu EP cyntaf eleni; y gantores bop electroneg wych o Ferthyr, Eädyth; a’r grŵp newydd hynod gyffrous, Kim Hon, sydd bron yn sicr o fod yn enwau mawr y flwyddyn neu ddwy nesaf.

Cyhoeddwyd hefyd mai’r DJ a chyflwynydd Elan Evans fydd yn cyflwyno Gwobrau’r Selar am y drydedd flwyddyn yn olynol.

Dangos beth sy’n boblogaidd

“Mae gyda ni lein-yp gwych ar gyfer Gwobrau’r Selar eto eleni” meddai Uwch Olygydd Y Selar, Owain Schiavone.

“Rydan ni bob amser yn ceisio cael balans rhwng adlewyrchu enwebiadau a phleidlais y cyhoedd ar un llaw, ond hefyd roi llwyfan i ambell artist arall sydd efallai’n llai amlwg, ond wedi gwneud gwaith da yn y flwyddyn a fu yn ein tyb ni.”

“Bwriad y Gwobrau ydy dangos pa artistiaid sy’n boblogaidd gyda phobl ifanc Cymru ar y pryd, ac mae’r lein-yp yn efelychu hynny, gan hefyd ymgeisio i ddangos peth o’r amrywiaeth wych sydd gyda ni o ran cerddoriaeth Gymraeg gyfoes ar hyn o bryd.”

Caeodd y bleidlais gyhoeddus ar gyfer Gwobrau’r Selar ar nos Calan, ac mae’r rhestrau byr yn cael eu datgelu’n wythnosol nes penwythnos y gwobrau.

Mae tocynnau penwythnos ar werth ers mis Rhagfyr, ac erbyn hyn mae modd prynu tocynnau unigol ar gyfer y nosweithiau hefyd ar wefan Y Selar.

Gwilym oedd prif enillwyr Gwobrau’r Selar llynedd, gan adael Aberystwyth gyda phump gwobr – record! Dyma glip fideo ohnonynt yn perfformio ar y nos Sadwrn llynedd.