Gohirio Eisteddfod Ceredigion – Ymateb y Cardis

“Gallwn fod yn hyderus y bydd Eisteddfod Ceredigion yn 2021 yn un i’w chofio.”

Gohebydd Golwg360
gan Ohebydd Golwg360

Daeth cyhoeddiad heddiw (dydd Llun, Mawrth 30) y bydd Eisteddfod Genedlaethol Ceredigion yn cael ei gohirio hyd nes 2021. Sut bydd hyn yn effeithio ar y cardis ar lawr gwlad sydd wedi bod yn gweithio yn ddiflino i godi arian a pharatoi ar gyfer y brifwyl?

O ganlyniad i holl waith caled y pwyllgorau apêl cyrhaeddodd Eisteddfod Ceredigion ei tharged ariannol o £330,000 yn gynnar, a arweiniodd at ymestyn y targed i £400,000.

Yn dilyn hyn, aethpwyd ati i drefnu hyd yn oed mwy o ddigwyddiadau i godi arian i’r Eisteddfod.

Ond yn awr, rhaid aros tan Awst 2021 i weld ffrwyth yr holl waith.

 

“Edrych ar yr ochr bositif”

Roedd pwyllgor apêl Llanarth a Mydroilyn wedi trefnu noson yng nghwmni Huw Chiswell oedd i’w chynnal ym mis Mai – noson a fyddai wedi nodi penllanw blwyddyn o godi arian gan y pwyllgor.

Yn ôl un o’r trefnwyr, Gwenan Davies, roedd y noson argoeli i fod yn llwyddiant mawr, ond oherwydd y sefyllfa bresennol penderfynwyd y byddai’n rhaid gohirio.

“Ni’n bwriadu ail drefnu’r digwyddiad, yn enwedig gan fod digon o amser nawr cyn Awst 2021!”

Ychwanegodd Gwenan Davies, “Mae’r newyddion yn siomedig, ond rhaid edrych ar yr ochr bositif, o leiaf nawr, bydd hyd yn oed fwy o amser i roi sglein ar berfformiadau a pharatoadau yn barod i groesawu Cymru gyfan yn 2021.”

 

“Cefnogi ein gilydd a chadw’n ddiogel”

Ategodd Megan Jones, Cadeirydd Pwyllgor Apêl Tref Aberystwyth, yr un neges gan ddweud mai iechyd y cyhoedd yw’r flaenoriaeth.

“Yn naturiol, rwy’n siomedig, ond rwy’n sicr y bydd pawb yn cytuno mai dyma’r penderfyniad cywir a synhwyrol i’w wneud.

“Yn y cyfamser, mae’n bwysig ein bod ni i gyd yn cefnogi ein gilydd a chadw’n ddiogel ar hyn o bryd.”

 

“Her ail gynnau’r bwrlwm”

Yn ôl Enfys Medi sydd ynghlwm a phwyllgor apêl pentrefi Llanddeiniol, Llangwyryfon, Llanrhystud a Trefenter mae’r penderfyniad i ohirio’r Eisteddfod yn “hollol ddealladwy.”

Er hyn, mae’n cydnabod y “bydd hi’n her ail gynnau’r bwrlwm yn dilyn misoedd lawer o ddiffyg digwyddiadau cymdeithasol.”

Eglurodd fod ymarferion eisoes wedi cael eu gohirio ers rhai wythnosau a’i bod hi fel nifer o bobol eraill yn edrych ymlaen at ailafael yn y cyfle i gymdeithasu fel rhan o gorau a phartïon a sefydlwyd ar gyfer yr Eisteddfod.

“Dwi’n siŵr fyddwn ni’r un mor awyddus i gymryd bob cyfle i ddod ynghyd ar ôl codi’r cyfyngiadau – gallwn fod yn hyderus y bydd Eisteddfod Ceredigion yn 2021 yn un i’w chofio.”

 

Roedd disgwyl i’r ŵyl gael ei chynnal yn Nhregaron ym mis Awst eleni. Bellach, caiff ei chynnal yn Nhregaron ym mis Awst 2021.

Y bwriad, wedyn, yw symud Eisteddfod Genedlaethol Llŷn ac Eifionydd i Awst 2022 a chynnal yr Eisteddfod yn Rhondda Cynon Taf yn 2023.

Mae Gŵyl Gyhoeddi Eisteddfod Genedlaethol Llŷn ac Eifionydd wedi’i gohirio hefyd.

Gohirio Eisteddfod Genedlaethol Ceredigion tan 2021

Gohebydd Golwg360

Roedd disgwyl i’r ŵyl gael ei chynnal yn Nhregaron ym mis Awst