Côr Gobaith a’r cyfnod clo

Hanes sut y mae côr o ardal Aberystwyth wedi dygymod yn ystod cyfnod y pandemig

Côr Gobaith
gan Côr Gobaith
Cor-Gobaith-canu-tu-allan-1

Côr Gobaith ar Ddiwrnod Cofio Hiroshima

Fel arfer, mae Côr Gobaith – côr stryd sy’n canu dros heddwch, yr amgylchedd a chyfiawnder cymdeithasol – yn ymarfer bob nos Fercher yng Nghanolfan Merched y Wawr, Aberystwyth.

Daeth hynny i ben – i ni ac i bob côr arall wrth gwrs – yn sydyn iawn ym mis Mawrth eleni gyda dyfodiad Cofid-19; collwyd nid yn unig y boddhad o ganu gyda’n gilydd bob wythnos, ond y cyfeillgarwch a’r cymdeithasu hefyd.

Eto, fel pawb arall, daeth Zoom â llygedyn o obaith ond, er gwaetha’ ymdrechion di-ri i gyd-ganu, nid oedd modd gwneud hynny, a’r canlyniad anochel bob tro oedd pawb yn rholio chwerthin! Yr unig ateb oedd canu gyda phawb wedi tewi (ar mute) ond profiad rhyfedd iawn yw eistedd o flaen sgrin, yn syllu ar ryw ddwsin o wynebau, gweld eu cegau yn agor a chau ond yn clywed dim! Ond roedd hyn yn well na dim, ac yn gyfle am sgwrs a chlywed newyddion pawb – ac roedd hefyd yn golygu bod dau o’n haelodau, oedd yn Nenmarc ar y pryd, yn gallu ymuno yn yr hwyl.

Wrth i’r wythnosau fynd heibio a ninnau yn ymgyfarwyddo mwyfwy â Zoom, cafwyd y syniad o chwarae caneuon wedi’u recordio. Dyma oedd breakthrough go iawn! Mae’r côr wedi recordio dau CD, un ohonynt yn recordiad o gyngerdd dathlu ein dengmlwyddiant yn 2016 – digon o ddewis felly. Er bod pawb yn dal wedi tewi (heblaw am y cyfrifiadur sy’n chwarae’r gerddoriaeth), roedd hyn yn teimlo llawer mwy fel canu ‘go iawn’.

Dengys ymchwil bod canu mewn côr yn llesol – yn feddyliol, yn emosiynol ac yn gorfforol. Rwy’n siŵr y gall pawb sy’n aelod o gôr dystio i effaith negyddol colli’r ymarferiadau wythnosol yn ystod y cyfnod clo ac, heb os, roedd y cyd-ganu hwn yn hwb sylweddol i aelodau Côr Gobaith.

Tua diwedd Gorffennaf, a’r cyfyngiadau wedi llacio rhywfaint, penderfynwyd mentro i gyfarfod a chanu yn yr awyr agored – gan gadw pellter cymdeithasol wrth gwrs. Ar nosweithiau Mercher a rhai nosweithiau Sul felly, rydyn ni wedi bod yn cyfarfod yng Nghastell Aberystwyth (uwchben yr hen Gôr y Castell fel mae’n digwydd). Gan nad ydyn ni’n fawr o ran nifer, gallwn wneud hyn heb drafferth a chadw pellter rhwng pawb, ac mae’r côr yn hen gyfarwydd â chanu yn yr awyr agored.

Cyn Cofid-19, byddem yn canu y tu allan i Siop y Pethe ar ddydd Sadwrn ola’ bob mis – waeth beth oedd y tywydd – er mwyn tynnu sylw at yr achosion sy’n bwysig i ni ac i gasglu arian, weithiau i elusennau rhyngwladol fel MSF (Médecins Sans Frontières) neu MAP (Medical Aid for Palestinians) ac weithiau i elusennau lleol fel Samariaid Aberystwyth. Ymarfer yw prif bwrpas y sesiynau yn y castell wrth gwrs, ond rydyn ni’n dal wedi llwyddo i ddenu sylw ambell i ymwelydd chwilfrydig!

Rhywbeth arall y byddwn yn ei wneud yn rheolaidd yw nodi achlysuron penodol ar hyd y flwyddyn; mae gennym repertoire eang o ganeuon i bob achlysur ac i sawl ymgyrch – rhai Cymraeg, rhai Saesneg a rhai mewn ieithoedd eraill. Mae aelodau’r côr yn hanu o Gymru, Lloegr a thu hwnt, ac mae sawl un erbyn hyn yn siarad Cymraeg.

Roedd cadw’r traddodiad hwn yn bwysig i ni, felly ar 6 Awst, diwrnod cofio bomio Hiroshima, cynhaliwyd digwyddiad teimladwy iawn ger y Goeden Heddwch yn Aberystwyth, gyda darlleniadau perthnasol a hymian yn lle canu (yn unol â’r cyngor a roddwyd i ni ar y pryd). Yna, ar Ddiwrnod Heddwch Rhyngwladol (21 Medi), fe ddaethon ni ynghyd wrth y Goeden Heddwch unwaith eto – y tro hwn i nodi 80 mlynedd ers chwalu cymuned Epynt. Canon ni amryw o ganeuon heddwch a darllen cerdd a gyfansoddwyd gan Ifor ap Glyn, Bardd Cenedlaethol Cymru.

Byddwn yn mynd ati nawr i lunio torchau pabis gwyn yn barod ar gyfer Sul y Cofio, er nad ydyn ni’n siŵr iawn ar hyn o bryd sut bydd y diwrnod hwnnw yn cael ei nodi eleni. Ers sawl blwyddyn bellach, rydyn ni wedi bod yn rhan o’r seremoni swyddogol wrth y gofeb rhyfel yn y castell ac yn cyflwyno torch pabis gwyn (i gofio am bawb a laddwyd mewn rhyfeloedd ac fel arwydd o obaith am ddyfodol heddychlon) a thorch pabis piws (i gofio am yr anifeiliaid a laddwyd mewn rhyfeloedd).

Rydyn ni hefyd wedi dechrau trefnu digwyddiad ar-lein fel rhan o gyfres o ddigwyddiadau y mae’r Rhwydwaith Corau Ymgyrchu (Campaign Choirs Network) yn eu cynnal, felly mae yna ddigon i gadw ni’n brysur dros yr wythnosau nesaf.

Gyda’r niferoedd sydd wedi eu heintio yn cynyddu, mwy a mwy o gyfyngiadau ar waith, a’r tywydd yn dirywio, does wybod am ba hyd y gallwn barhau i gyfarfod a chanu yn y castell neu wrth y Goeden Heddwch. Ond mae un peth yn sicr, byddwn yn parhau i ganu ac, yng ngeiriau un o’n hoff ganeuon, bydd Côr Gobaith yn bendant ‘yma o hyd’.