Ffotomarathon gwahanol yn y cartref

gan Deian Creunant

I’r rheiny sydd yn gyfarwydd â’r ffotomarathon flynyddol gaiff ei chynnal yn Aberystwyth byddwch yn ymwybodol o’r drefn – y nod yw cymryd chwe llun mewn chwe awr ar chwe thema wahanol. Wel mae’r criw sydd yn gyfrifol am y digwyddiad ffotograffig hwnnw am drio gwneud rhywbeth ychydig yn wahanol yn wyneb y sefyllfa bresennol.

Y nod yw cynnal ffotomarathon dros benwythnos y Pasg – pedwar diwrnod, pedwar llun, pedwar thema – ond wrth gwrs fydd dim cyfle i grwydro o gwmpas y dref y tro hwn.

Caiff gwobr ei rhoi am y llun gorau bob dydd o dan y thema benodol a chaiff un wobr ei rhoi am y set orau o bedwar llun ar ddiwedd y pedwar diwrnod. Caiff y themau eu rhyddhau am 10 y bore ar gyfrif facebook, Twiitter ac Instagram FfotoAber a bydd angen i gystadleuwyr uwchlwytho eu lluniau rhwng 5 a 7 yr hwyr.

Un ymgais gaiff ei ganiatau i bob cystadleuydd bob dydd a chaiff y llun buddugol ei ddatgelu am ddeg y bore canlynol wrth i’r thema nesaf gael ei gyhoeddi. Y beirniad fydd y ffotograffydd a’r dyn camera proffesiynol o Aberystwyth, Aled Jenkins.

Mae’n dra gwahanol i’r drefn arferol ond fel yr eglura Catrin M S Davies, mae angen meddwl am bopeth yn wahanol erbyn hyn,

“Er y cyfyngiadau sydd arnom y dyddiau hyn  mae ffotograffiaeth yn parhau i fod yn weddol hygyrch – yr hyn sy’n heriol gyda’r syniad hwn yw adnabod delweddau fydd yn cyd-fynd â’r thema o fewn ac o gwmpas eich cartref.

“Y gobaith yw y bydd hwn yn cynnig gweithgaredd i’r teulu cyfan a falle yn annog cystadleuaeth iach o fewn teuluoedd – ond yn y bôn y nod yw cael ychydig o hwyl.”

Bydd y ffotomarathon yn cychwyn ar ddydd Gwener 10, Ebrill ac yn gorffen ar ddydd Llun, 13 Ebrill, gydag enillydd yn cael ei gyhoeddi bob dydd am y thema orau ac un enillydd yn ennill am y set orau o bedwar llun.

Am fwy o wybodaeth ewch i dudalennau facebook, Twitter ac Instagram FfotoAber.

2 sylw

Mererid
Mererid

Gwych

Mae’r sylwadau wedi cau.