Gwobrau Menter Aberystwyth: Fforwm Penparcau yn enillwyr

Fforwm Penparcau yn ennill gwobr Menter Aberystwyth l

Mererid
gan Mererid

Arad Goch, Rob Rattery, Dic Evans, Fforwm Gymunedol Penparcau ac Ymatebwyr Aber oedd ymysg yr enillwyr yng ngwobrau rhithiol Menter Aberystwyth ar y 19eg o Dachwedd 2020. Gellir gwylio’r seremoni o ddilyn y linc yma.

Mae deuddeg gwobr i gyd mewn categori gwahanol o berfformiad rhagorol yn 2020 ynghyd â un Wobr Fawr y flwyddyn. Mae tri ym mhob rhestr fer, a sialens y cyhoedd oedd pleidleisio am yr enillwyr. Y prif enillwyr eleni oedd Fforwm Cymunedol Penparcau

Penparcau

 

Yr enillwyr yn 2020 oedd: –

Dyluniwyd Gwobrau Aber i gydnabod y gwaith caled a’r cyfraniadau rhagorol a ddangosir gan unigolion, sefydliadau a busnesau yn ardal Aberystwyth.

Diolchwyd yn arbennig i Haka Entertainment, Canolfan Celfyddydau Aberystwyth, Culture Colony a Lowri Dots (am addurno). Darparwyd adloniant gan Sorela a nifer o artistiaid eraill.

Diolchwyd hefyd i’r noddwyr – Cyngor Tref Aberystwyth, Menter Aberystwyth, Ego a Phrifysgol Aberystwyth, ac wrth gwrs, noddwyr y cystadlaethau unigol. Caiff y trefnwyr ychydig o lonydd cyn lansiad rhithiol y goeden Nadolig ar y 5ed o Ragfyr.