Rhedwr enwocaf Aber yn cwblhau ei her 1,000 o filltiroedd

Dic ‘Rhedwr’ Evans wedi codi dros £6000 tuag at ward chemo Ysbyty Bronglais

Owain Schiavone
gan Owain Schiavone

Ar ddechrau’r cloi mawr fe osododd Dic Evans her i’w hun i redeg 1000 o filltiroedd, dros 100 o ddyddiau, gyda’r nod o godi £1000 at elusen.

Nos Wener, 26 Mehefin, fe gwblhaodd ei her – ychydig ddyddiau’n gynnar, ac wedi codi ymhell dros £6000 yn barod.

Fydd yr her ddim yn syndod i lawer o drigolion ardal Aberystwyth – wedi’r cyfan mae’r cyn bennaeth cynradd yn ysgol Syr John Rhys yn cael ei adnabod yn lleol fel ‘Dic Rhedwr’. Dyma ddyn sydd wedi rhoi ei fywyd i’r gamp, a heb fethu diwrnod o redeg ers dros ddeugain blynedd.

Ond mae’n werth gosod hyn yn ei gyd-destun – mae 1000 o filltiroedd dros 100  o ddyddiau yn gyfartaledd o 10 milltir y dydd neu 70 milltir yr wythnos, sef y math o bellter byddai rhedwr clwb ifanc cystadleuol yn ei wneud wrth hyfforddi i redeg marathon. Mae Dic yn 73 oed bellach, ac yn dioddef o anaf sy’n ei atal rhag hyfforddi’n iawn ers misoedd lawer.

Llenwi’r bwlch

Rhai o grŵp rhedeg Dic Evans yn cwrdd, gan gadw pellter, er mwyn rhedeg y milltiroedd olaf gyda’r hyfforddwr

Mae ymroddiad Dic i redeg yn glir i bawb. Yn ogystal â hyfforddi grŵp rhedeg yn Aberystwyth o’i wirfodd ers blynyddoedd lawer, mae hefyd yn gyfrifol am gynnal rasys llwybrau lleol gan godi arian at achosion da.

Y prif ddigwyddiad blynyddol ydy Sialens y Barcud Coch, sy’n ddiwrnod o rasio llwybrau ym Mhontarfynach gan gynnwys pencampwriaethau Cymru a Gorllewin Cymru ar gyfer rhedwyr ieuenctid ac oedolion. Mae’r digwyddiad wedi codi miloedd o bunnoedd i elusennau lleol dros y blynyddoedd, ac yn arbennig felly Ysbyty Bronglais.

Gyda Sialens y Barcud Coch yn digwydd ddechrau mis Mai fel rheol, daeth yn amlwg yn fuan iawn wedi’r cloi mawr na fyddai modd cynnal y ras  eleni. Dyma felly oedd yr ysgogiad i Dic fynd ati i gynllunio her amgen er mwyn ceisio llenwi rhywfanint o’r bwlch, a chodi arian yn benodol at ward chemotherapy yr ysbyty.

“Ro’n i’n gweld y byddai’r ysbyty’n colli mas ar yr arian mae Sialens y Barcud Coch yn codi, felly isie gwneud beth allen i” eglura Dic wrth drafod yr her.

Mae’n amlwg fod ei ymdrech wedi dal y dychymyg, ac fe basiodd y nod o godi £1000 mewn dim o dro, gyda chyfraniadau’n dod o bob rhan o’r byd.

“Ma pobl wedi bod yn hael iawn…ma arian wedi dod o America, ma arian wedi dod o Ffrainc, ac ma arian wedi dod o Ganada a sawl lle arall.”

O edrych ar y cyfraniadau’n cyrraedd ei dudalen Just Giving a’r negeseuon y dymuno’n dda o bob cwr, mae’r parch enfawr gan bobl tuag ato’n amlwg. Wrth i’r her agosáu at ei derfyn, cafwyd fideo o gefnogaeth wythnos diwethaf gan nifer o’r rhedwyr mae wedi hyfforddi, ynghyd â rhai o redwyr amlycaf Cymru. Roedd rhain yn gynnwys y rhedwraig yltra a chyflwynwraig Lowri Morgan, Adam Bitchell o Aberystwyth a gynrychiolodd Cymru yng Nghemau’r Gymanwlad, y gyflwynwraig a rhedwraig Olympaidd Angharad Mair, a’r rhedwr rhyngwladol Cymreig a hyfforddwr uchel ei barch James Thie.

Nos Wener ymunodd rhai o aelodau ei grŵp rhedeg â Dic er mwyn cadw cwmni iddo, gan gadw pellter, yn ystod ei ychydig filltiroedd olaf. Ac roedd croeso cynnes yn ei ddisgwyl gan nifer o bobl leol oedd wedi’u hysbrydoli ganddo wrth iddo gyrraedd y linell derfyn ger y Bandstand yn Aberystwyth.

Wrth iddo ddiolch i bawb am eu cefnogaeth cafodd gymeradwyaeth frwd a thair bloedd yn werthfawrogiad o’i gamp arbennig.

Ac wrth iddo gyfaddef fod y corff wedi blino a “sawl dolur” yn ei boeni dros yr wythnosau olaf, beth nawr i redwr enwocaf canolbarth Cymru…wythnos neu ddwy haeddiannol o orffwys does bosib?

Dim gobaith, roedd Dic yn llawn fwriadu rhedeg y diwrnod canlynol ac eisoes yn cynllunio sesiynau hyffordd cyntaf ei grŵp pan fydd y cloi mawr yn caniatau.

Mae dal modd cyfrannu at yr achos ar hyn o bryd ar safle Just Giving Dic Evans.

 

Fideo: Tom Mereds (Tîm Dic)