Arad Goch, Rob Rattery, Dic Evans, Fforwm Gymunedol Penparcau ac Ymatebwyr Aber oedd ymysg yr enillwyr yng ngwobrau rhithiol Menter Aberystwyth ar y 19eg o Dachwedd 2020. Gellir gwylio’r seremoni o ddilyn y linc yma.
Mae deuddeg gwobr i gyd mewn categori gwahanol o berfformiad rhagorol yn 2020 ynghyd â un Wobr Fawr y flwyddyn. Mae tri ym mhob rhestr fer, a sialens y cyhoedd oedd pleidleisio am yr enillwyr. Y prif enillwyr eleni oedd Fforwm Cymunedol Penparcau
Yr enillwyr yn 2020 oedd: –
- Fforwm Cymunedol Penparcau – anogwyr bro ac enillwyr Gwobr y Flwyddyn;
- Arad Goch – hybu’r celfyddydau;
- Dic Evans – gwobr er cof am Paul James am waith codi arian; https://broaber.360.cymru/2020/rhedwr-enwocaf-aber-cwblhau-1000-filltiroedd/
- Tyfu Aber/ Aber Food Surplus – gwobr amgylcheddol;
- Dragonfly Bistro – bwyd a diod
- Rob Rattray – profiad siopa gorau
- Aberystwyth First Responders – arwyr bob dydd;
- Academi Gerdd y Lli – Codi iaith dros yr Iaith Gymraeg
- Signature Hair & Makeup – Hapus am byth
- Bottle and Barrel – busnes newydd
- Wardens Pantomine – digwyddiad y flwyddyn
Dyluniwyd Gwobrau Aber i gydnabod y gwaith caled a’r cyfraniadau rhagorol a ddangosir gan unigolion, sefydliadau a busnesau yn ardal Aberystwyth.
Diolchwyd yn arbennig i Haka Entertainment, Canolfan Celfyddydau Aberystwyth, Culture Colony a Lowri Dots (am addurno). Darparwyd adloniant gan Sorela a nifer o artistiaid eraill.
Diolchwyd hefyd i’r noddwyr – Cyngor Tref Aberystwyth, Menter Aberystwyth, Ego a Phrifysgol Aberystwyth, ac wrth gwrs, noddwyr y cystadlaethau unigol. Caiff y trefnwyr ychydig o lonydd cyn lansiad rhithiol y goeden Nadolig ar y 5ed o Ragfyr.