Enillwyr Cystadleuaeth Gwisg Ffansi Rithiol

Dyma enillwyr Cystadleuaeth Gwisg Ffansi Rithiol Menter Aberystwyth

Mererid
gan Mererid

Mae Menter Aberystwyth wedi cyhoeddi enillwyr y Gystadleuaeth Gwisg Ffansi, un rhithiol wrth gwrs!

Y thema eleni oedd “O Amgylch y Byd”.

Julie Thomas, o Lanafan oedd enillydd categori ar gyfer oedolion, a’i gwobr oedd Te Prynhawn o Bennau Crafts and Coffee Shop, Bow Street

Gwobr Plentyn -Enillodd Mali fach rhywbeth hyfryd o Broc Mor, Aberystwyth. Gan fod cymaint o geisiadau gan blant eraill, fe fyddan nhw yn derbyn tocyn anrheg o Siop lyfrau Turn the Page, Aberystwyth.

Roedd beirniadu’r grŵp gorau yn dipyn o her felly penderfynwyd ar ddau enillydd, oedd yn derbyn tocyn anrheg o’r siop sglodion leol, Y Dafarn Datws, Waunfawr.

Dyma’r teulu Williamson: –

A dyma’r teulu Edwards: –

Teulu Edwards

Rhaid rhoi sylw arbennig i Sue Jones-Davies am yr ymdrech hollol wych! Yn anffodus, fel aelod o’r bwrdd, doedd hi ddim yn gymwys am wobr, ond da iawn hi am gymryd rhan.

Hoffai Menter Aberystwyth o DDIOLCH i’r holl fusnesau a noddodd y gystadleuaeth, a hefyd sydd wedi cadw’r dref fach annwyl i fynd dros y misoedd diwethaf.