Difrod i eisteddle yng Nghae Piod

CPD Bow Street a’r Heddlu yn apelio am wybodaeth.

Gohebydd Golwg360
gan Ohebydd Golwg360
CPD Bow Street - Facebook

Mae Clwb Pêl-droed Bow Street wedi apelio i’r cyhoedd am wybodaeth ar ôl i eisteddle yng Nghae Piod gael ei ddifrodi.

Mewn datganiad dywedodd Swyddogion Clwb Pêl-droed Bow Street fod y difrod i Eisteddle Emlyn Rees wedi digwydd rhwng Mai 30 a Mehefin 2.

“Mae’r digwyddiad hwn yn peri gofid mawr i’r Clwb” meddai’r datganiad.

“Mae’r Clwb yn ymfalchïo yn y ffaith fod ganddo gyfleusterau o’r radd flaenaf i’r gymuned gyfan eu mwynhau, a nawr bydd yn rhaid atgyweirio’r difrod mewn amser pan fod adnoddau’r Clwb yn gyfyngedig a chyfleoedd i godi arian yn brin.

“Mae’r Heddlu wedi cael eu hysbysu ac y mae ymholiadau ar waith i adnabod y rhai sy’n gyfrifol, yn seiliedig ar dystiolaeth teledu [camerâu] cylch cyfyng.

“Gofynnir yn garedig i unrhyw un sydd â gwybodaeth gysylltu â’r Heddlu yn uniongyrchol neu swyddogion CPD Bow Street.”

#ypiodoamgylchybyd

Yn sgil y coronafeirws mae chwaraewyr, aelodau iau, swyddogion a’r gymuned ehangach wrthi ar hyn o bryd yn codi arian i elusennau lleol gan seiclo, rhedeg a cherdded pellter sy’n cyfateb i gylchedd y ddaear – 24,680 milltir!

#ypiodoamgylchybyd

Amlyn Ifans

Mae chwaraewyr a swyddogion Clwb Pêl-droed Bow Street wedi gosod her fyd-eang i’r gymuned gyfan …