#ypiodoamgylchybyd

gan Amlyn Ifans

Mae chwaraewyr a swyddogion Clwb Pêl-droed Bow Street wedi gosod her fyd-eang i’r gymuned gyfan dros y 70 diwrnod nesaf.

Mewn ymgais i ragori ar ymdrechion Phileas Fog a seren Monty Python, Michael Palin, mae’r orchest arwrol yma yn cynnwys seiclo, rhedeg a cherdded pellter sy’n cyfateb i gylchedd y ddaear – 24,680 milltir! Dan arweiniad chwaraewyr CPD Bow Street, mae’r her yn agored i bawb sy’n gysylltiedig â’r clwb a’r gymuned ehangach, boed yn hyfforddwyr, chwaraewyr iau, rhieni, swyddogion neu’n gefnogwyr, gyda’r bwriad o gyflawni’r dasg anferthol hon ymhen 70 o ddiwrnodau, a’r cyfan gan ddilyn canllawiau’r Llywodraeth ar ymarfer corf a chadw pellter cymdeithasol.

 

Mae’r clwb wedi sefydlu tudalen JustGiving

https://www.justgiving.com/crowdfunding/bowstreet-fc    i dderbyn rhoddion a fydd yn cael eu rhannu rhwng y clwb a’r ddwy elusen ganlynol:

  • Apêl Covid 19 GIG Hywel Dda – sy’n cefnogi lles y staff a gwirfoddolwyr GIG sy’n gofalu am gleifion COVID-19
  • HAHAV – Gwirfoddolwyr Hosbis yn y Cartref Aberystwyth

 

Meddai Cadeirydd CPD Bow Street, Wyn Lewis, ‘Rwy’n hynod falch o’r rhai hynny o fewn y clwb, y chwaraewyr hŷn yn enwedig, a fu’n gyfrifol am gychwyn y fenter gyffrous yma, ac yn ôl y diddordeb cynnar a welwyd, disgwylir y bydd nifer fawr o bobl yn cymryd rhan.

‘Mae’r dyddiau hyn yn rhai anodd iawn i glybiau chwaraeon cymunedol fel ni, a thra bydd cyfran o’r arian a gasglwyd yn cael ei ddefnyddio i sicrhau bod CPD Bow Street yn barod ar gyfer parhâd o’r tymor presennol neu gychwyn y tymor nesaf, roeddwn yn teimlo ei bod yn hanfodol i ni gefnogi elusennau lleol yn y cyfnod tyngedfennol yma.

‘Rydym ni oll yn edmygu gweithwyr rheng flaen GIG, yn enwedig yn ystod yr argyfwng presennol, a bydd cefnogi Apêl Covid 19 GIG Hywel Dda o fudd mawr i’r unigolion rhyfeddol hynny sy’n gweithio ym Mronglais ac ysbytai eraill.’

 

Ychwanegodd Tomos Wyn Roberts, llefarydd ar ran chwaraewyr Bow Street – ‘Roedd y bois yn teimlo ei bod hi’n bwysig cefnogi elusennau nad ydynt yn uniongyrchol gysylltiedig â Covid 19, ond sy’n darparu gofal cymdeithasol hanfodol i gynnal y rhai sy’n dioddef o salwch hir dymor. Dyma pam ry’ ni wedi enwebu HAHAV fel yr elusen ry’ ni am ei  chefnogi –  mae’r gwaith y mae HAHAV yn ei wneud yn ein hardal yn cael ei edmygu a’i werthfawrogi’n fawr iawn.’