Cynnyrch lleol unwaith eto i bobol Ceredigion

Cwynion fod bwyd o focsys a ddarparir gan y Llywodraeth yn cyrraedd wedi pydru.

Gohebydd Golwg360
gan Ohebydd Golwg360

Wythnos yma bydd Cyngor Ceredigion yn darparu bocsys bwyd i’r bobol fwyaf bregus mewn cymdeithas unwaith eto.

Bu raid i’r cyngor roi’r gorau i ddarparu’r gwasanaeth i bobol sy’n hunan ynysu a dilyn trefniant newydd Llywodraeth Cymru fis diwethaf.

Oherwydd pryderon cynyddol gan bobol leol am safon y bwyd oedd yn cael ei ddarparu gan y Llywodraeth, a rhai hyd yn oed yn cwyno fod bwyd yn eu cyrraedd wedi pydru, mae Cyngor Ceredigion wedi cael yr hawl i fynd nôl at y cynllun gwreiddiol, a darparu bwyd trwy gwmnïau lleol.

Mewn cyfweliad arbennig â Bro360 dywedodd Ellen ap Gwyn, Arweinydd Cyngor Sir Ceredigion, “doedd y sefyllfa ddim yn ddigonol, o wythnos nesaf ymlaen bydd Cyngor Ceredigion yn darparu cynnyrch lleol unwaith eto i bobol.”

Eglurodd Arweinydd y Cyngor: “Yn yr wythnos gyntaf mi oedd trefniant rhyngom ni a darparwyr lleol, gan gefnogi busnesau lleol i ddarparu’r bocsys – doedd pob sir ddim yn gwneud hyn.”

“Yn anffodus roedd y Llywodraeth wedi gwneud trefniadau gyda dau gwmni mawr i ddarparu’r bocsys bwyd yma drwy gytundeb, cawsom ni ddim dewis roedd rhaid i ni dderbyn nhw.”

“Doedd y bocsys newydd ddim yn cymryd dim ystyriaeth o anghenion dietegol, alergeddau na crefyddol.”

“Rydym wedi llwyddo i roi cytundeb mewn lle a bydd y Cyngor yn darparu’r bwyd o hyn ymlaen – sydd yn newyddion da dwi’n gobeithio.”

“Mi fydd pobol nawr yn gallu cael darpariaeth fwy lleol a mwy ffres.”

 

Roedd arweinydd y Cyngor Sir yn ateb cwestiynau gan bobol o Geredigion am ymateb y sir i’r coronafeirws – gwyliwch y cyfweliad llawn yma.

 

Ellen ap Gwynn yn ateb eich cwestiynau am ysgolion, pecynnau bwyd a chau ffiniau Ceredigion

Gohebydd Golwg360

Arweinydd Cyngor Sir Ceredigion yn ateb cwestiynau am ymateb y sir i argyfwng y coronafeirws.