Cynlluniau i fyfyrwyr gasglu eiddo o neuaddau preswyl

“Yr unig bwrpas ar gyfer teithio i Aberystwyth yw casglu eu heiddo.”

Gohebydd Golwg360
gan Ohebydd Golwg360
Prifysgol Aberystwyth

Mae Prifysgol Aberystwyth, Heddlu Dyfed Powys a Chyngor Sir Ceredigion wedi cytuno ar gynlluniau i alluogi myfyrwyr i gasglu eiddo sydd wedi’i adael yn neuaddau preswyl y brifysgol.

Hyd yma, roedd y brifysgol wedi gofyn i fyfyrwyr i beidio â theithio i Aberystwyth er mwyn lleihau lledaeniad y Coronafirws.

Yn gynharach eleni bu rhaid i’r brifysgol drosglwyddo ei holl addysgu ar-lein oherwydd y coronafeirws, y gobaith yw bydd y campws yn ail agor i fyrfyrwyr fis Medi. 

Dywedodd Andrea James, Cyfarwyddwr Ystadau, Cyfleusterau a Phreswylfeydd ym Mhrifysgol Aberystwyth: “Trwy gydol y pandemig hwn, mae amddiffyn ein myfyrwyr, ein staff a’r gymuned leol trwy weithio’n ddiflino i leihau lledaeniad y Coronafirws wedi bod yn flaenoriaeth i ni ym Mhrifysgol Aberystwyth.

“Rydym yn croesawu cefnogaeth yr Heddlu a Chyngor Sir Ceredigion i alluogi myfyrwyr i ddychwelyd mewn ffordd sy’n cyfyngu ar y risg o ledaenu’r haint.”

Bydd myfyrwyr yn gallu defnyddio porth ar-lein i gael dyddiad ac amser penodol ar gyfer dychwelyd i nôl eiddo.

Y gobaith yw cwblhau’r broses dros gyfnod o bythefnos gan reoli’r casgliadau yn ofalus a blaenoriaethu diogelwch staff, myfyrwyr a’r gymuned ehangach.

“Daw cyfle eto i ymweld ag ardal Aberystwyth”

Mae Eifion Evans, Prif Weithredwr Cyngor Sir Ceredigion wedi rhybuddio mai pwrpas yr ymweliadau yw casglu eiddo yn unig.

“Trwy weithio mewn partneriaeth, gallwn sicrhau bod myfyrwyr yn gallu casglu eu heiddo yn ddiogel a sicrhau diogelwch dinasyddion Aberystwyth a Ceredigion.

“Fodd bynnag, hoffem atgoffa’r myfyrwyr a’u teuluoedd sydd wedi trefnu i gasglu eu heiddo nad ydyn nhw’n manteisio ar y cyfle i ymweld â’r traeth neu fannau harddwch eraill, a fyddai’n cael ei ystyried yn deithio diangen.

“Yr unig bwrpas ar gyfer teithio i Aberystwyth yw casglu eu heiddo. Daw cyfle eto yn y dyfodol i ymweld ag ardal Aberystwyth.”

Ystyried y gymuned ehangach

Dywedodd y Prif Arolygydd Christina Fraser, o Heddlu Dyfed Powys: “Mae’r trefniadau hyn a gytunwyd arnynt rhyngom ni a’r Brifysgol wedi rhoi ystyriaeth i’r gymuned ehangach, wrth inni geisio osgoi nifer fawr o bobl yn cyrraedd ar unwaith pan fydd y cyfyngiadau ar deithio yn cael eu llacio ymhellach.

“Mae Llywodraeth Cymru yn nodi’n glir bod teithio i gasglu eiddo o lety myfyrwyr yn cael ei  ganiatáu ac yn rhesymol.

“Mae’n synhwyrol trefnu iddynt ymweld mewn dull sydd wedi ei reoli drwy slotiau amser a ddyrannwyd a chyda chamau pellhau cymdeithasol priodol – rhaid blaenoriaethu diogelwch pawb, gan gynnwys yr ardal leol, ac mae’n allweddol ein bod yn osgoi gweld nifer fawr o fyfyrwyr ac aelodau o’u teuluoedd yn cyrraedd ar yr un pryd.”