Cyfradd ailgylchu Ceredigion ymhlith y gorau yng Nghymru

“Mae’r newyddion gwych hwn yn adlewyrchiad o Garu Ceredigion ar waith.”

Gohebydd Golwg360
gan Ohebydd Golwg360

Mae ffigurau a ryddhawyd yn ddiweddar yn dangos bod Ceredigion wedi cofnodi ei chyfradd ailgylchu orau erioed.

Mae’r gyfradd ailgylchu o 72% yn 2019/20 ymhlith y gorau yng Nghymru.

Mewn datganiad, dywedodd Cyngor Sir Ceredigion bod nifer o ffactorau wedi cyfrannu at hynny, gan gynnwys cyflwyno system casglu gwastraff domestig newydd ledled y sir.

Hynny, yn ogystal â’r modd mae trigolion lleol wedi cofleidio’r system newydd a’i chefnogi, meddai’r Cyngor.

“Newyddion gwych”

“Mae’r newyddion gwych hwn yn adlewyrchiad o Garu Ceredigion ar waith,” meddai’r Cynghorydd Dafydd Edwards, yr Aelod Cabinet dros Briffyrdd a Gwasanaethau Amgylcheddol.

“Mae trigolion Ceredigion, y Cyngor a’n partneriaid yn y diwydiant gwastraff wedi gweithio gyda’i gilydd i gyflawni hyn.

“Mae gwella a chynyddu ailgylchu yn golygu yr ymdrinnir â gwastraff yn y ffordd fwyaf amgylcheddol a chost-effeithiol â phosibl.

“Mae’r targedau statudol ar gyfer ailgylchu yn uchelgeisiol ac yn heriol, yn enwedig yn yr hinsawdd economaidd sydd ohoni, ac edrychwn ymlaen at weithio gyda’n trigolion a’n partneriaid i sicrhau ein bod yn parhau ar y trywydd iawn.”

Y Cyngor yn diolch

Wrth i gyfnod y gaeaf ddechrau, rhoddir pwysau ychwanegol ar dimau gweithredol y Cyngor, gan gynnwys y tîm casglu gwastraff.

Mae Cyngor Sir Ceredigion wedi ymrwymo i barhau gyda’u hymdrechion i ddarparu’r lefel orau bosibl o wasanaeth.

Maent hefyd yn estyn eu diolch diffuant i drigolion lleol am eu holl gefnogaeth, ac i’w aelodau timau casglu gwastraff am eu holl waith caled.