Cyflwyno hysbysiad gwella i dafarn ym Mhontarfynach

Tafarn Yr Hafod wedi ei rhybuddio, er mwyn atal lledaeniad y coronafeirws

Gohebydd Golwg360
gan Ohebydd Golwg360

Mae gofyniad wedi cael ei gyflwyno i dafarn ym Mhontarfynach wneud gwelliannau i ddiogelu iechyd a llesiant y cyhoedd, er mwyn atal lledaeniad y coronafeirws.

Cafodd Hysbysiad Gwella Mangre ei gyflwyno i dafarn Yr Hafod yn dilyn ymweliad gan Swyddogion Diogelu’r Cyhoedd Cyngor Sir Ceredigion.

Yn ystod yr ymweliad, dywedodd y swyddogion bod angen gwelliannau er mwyn cydymffurfio â Rheoliadau Diogelu Iechyd yn sgil cyfyngiadau’r coronafeirws.

Mae’r gwelliannau’n cynnwys:

  • sicrhau y cedwir pellter o 2 fetr rhwng pobl
  • rhoi mesurau ar waith sy’n cyfyngu ar ryngweithio wyneb yn wyneb agos
  • cynnal hylendid

Bydd yn rhaid i’r mesurau hyn gael eu cyflwyno erbyn 5 o’r gloch 27 Tachwedd, 2020.

Gellir dod o hyd i’r hysbysiad llawn ar wefan Cyngor Sir Ceredigion fan hyn.

Mae gwybodaeth i fusnesau ar gael ar wefan y Cyngor o dan Cefnogi Economi Ceredigion.