Catrin M S yn cyhuddo’r cyfryngau o “anwybyddu” y celfyddydau

Mae’r cynhyrchydd teledu o Dal-y-bont yn anhapus gyda’r sylw i’r celfyddydau yn ystod Covid-19

Gohebydd Golwg360
gan Ohebydd Golwg360
Arad Goch

Tu Fewn Tu Fas

Mae’r cyfryngau wedi “anwybyddu” y celfyddydau wrth ohebu yn ystod argyfwng Covid-19, tra’n rhoi sylw di-ffael i chwaraeon.

Dyna gŵyn cynhyrchydd teledu Cwmni Unigryw o Dal-y-bont, wrth drafod y cymorth sydd ei angen i ddiogelu’r diwydiant celfyddydol yng Nghymru.

Mae holl weithgarwch celfyddydol wedi dod i stop yn ystod yr argyfwng yn unol â’r cyfyngiadau – o berfformiadau theatrau a chomedi, i gyngherddau ac ymarferion corau yn ein neuaddau pentre’.

“Am ryw reswm mae’r llywodraethau yn ddall a mud i’r celfyddydau a dw i’n ofni bod y cyfryngau torfol traddodiadol – radio a theledu – wedi anwybyddu’r celfyddydau wrth adrodd ar sefyllfa Covid yn ddyddiol,” meddai Catrin M S Davies.

“Collwyd dim un cyfle na bwletin i adrodd ar y ffaith nad oedd pêl-droed na rygbi yn digwydd.

“Bob dydd, bob rhaglen newyddion mi glywon ni’r un hen dôn ond bach iawn fu’r sôn am ddim sinema, ddim theatr, dim cyngerdd, dim recordio cerddoriaeth mewn stiwdio, dim perfformiadau comedi, dim ymarferion theatr, dim ymarferion dawns, dim agoriadau celfyddydol mewn oriel, dim gweithdai cerddorol, celf, crefft i blant.”

Mae hi’n dweud ei bod hi’n “sefyllfa ddu iawn” i bobol lawrydd sy’n gweithio yn y celfyddydau, er gwaetha’r £59 miliwn sydd wedi ei glustnodi gan Lywodraeth Prydain ar gyfer diogelu dyfodol y celfyddydau yng Nghymru.

Darllenwch gyfweliad llawn golwg360 â Catrin M S:

Dim digon o sylw i’r celfyddydau ar y newyddion

Non Tudur

Ond y sylw i chwaraeon yn ddiffael, yn ôl y cynhyrchydd teledu Catrin M S Davies

Mae straeon ar BroAber360 a’r gwefannau bro eraill am y ffyrdd dychmygus o addasu gan fudiadau yn lleol, gan gynnwys recordiad côr rhithiol ABC, cynnal Eisteddfod Ar-lein Capel-y-groes, a chyflwyniad i animeiddio gan Lleucu Non.