Yn gôr o hyd

Perfformio darn corawl newydd a gyfansoddwyd yn ystod y cyfnod clo

gan Gwennan Williams

Gyda neuaddau cyngerdd ac ystafelloedd ymarfer ar gau ers mis Mawrth, mae cerddorion wedi bod yn chwilio am ffyrdd newydd o greu cerddoriaeth a chwrdd â’u grwpiau o bell. Yn ystod y cyfnod clo, ry’n ni wedi gweld arweinwyr yn symud eu hymarferion ar-lein, cyfansoddwyr yn ymateb yn greadigol i’r pandemig a’r cyfyngiadau ar ein bywydau, a chorau ac ensemblau’n creu fideos o berfformiadau rhithwir i’w rhannu dros y we.

Mae Côr ABC o Aberystwyth wedi bod yn rhan o brosiect côr rhithwir sydd wedi cyfuno’r tri pheth hyn. Ar y cyd â Chôr Dinas, côr merched Cymry Llundain, mae’r côr wedi recordio perfformiad rhithwir o yn un rhith – darn corawl newydd sbon a gyfansoddwyd yn ystod wythnosau cyntaf y cyfnod clo gan Andrew Cusworth, cyfansoddwr a fagwyd yn Sir Benfro. Mae geiriau’r darn, gan y prifardd Dafydd John Pritchard, yn ymateb i ymarfer rhithwir cyntaf Côr ABC a’r profiad o gyd-ganu ar wahân – o fod yn gôr o hyd.

Ers rhyddhau’r fideo mewn digwyddiad première ar YouTube ar 22 Mai, mae’r perfformiad a’r darn wedi ennyn ymateb cynnes iawn o bob rhan o’r byd.

Cam nesaf y prosiect fydd rhyddhau’r holl adnoddau – gan gynnwys y sgôr, y fideos i’w defnyddio i ymarfer ac i recordio’r darn, a’r trac cyfeiliant – er mwyn i gorau eraill recordio eu perfformiad rhithwir eu hunain o’r darn.

Bydd yr adnoddau i gyd ar gael am ddim ar wefan https://ynunrhith.cymru i’w defnyddio gan gorau lleisiau uchaf a chorau merched (fersiwn SSA) a chorau cymysg (fersiwn SATB).