Cau busnes bwyd yn Aberystwyth am dorri rheoliadau’r coronafeirws

Daw hynny, ar ôl i staff gael eu gweld heb orchuddion wyneb ar sawl achlysur

Gohebydd Golwg360
gan Ohebydd Golwg360

Mae lleoliad cludfwyd yn Aberystwyth wedi cael ei gau am beidio â chydymffurfio â hysbysiad gwella.

Mae hysbysiad cau wedi cael ei gyflwyno i G-One, Rhodfa’r Gogledd, Aberystwyth gan Dîm Diogelu’r Cyhoedd Cyngor Sir Ceredigion oherwydd ddiffyg cydymffurfiaeth.

Cafodd y busnes ei rybuddio fis diwethaf bod rhaid iddynt ddarparu neu ei wneud yn ofynnol i staff sydd yn gweithio ar y safle i ddefnyddio cyfarpar diogelu personol a gorchuddion wyneb.

Er hynny, gwelodd swyddogion nad oedd staff yn gwisgo gorchuddion wyneb ar sawl achlysur, gan dorri’r gofynion.

Bydd yn rhaid i’r busnes gau hyd nes 21 Rhagfyr 2020.

Bydd Tîm Diogelu’r Cyhoedd Cyngor Sir Ceredigion yn parhau i gymryd camau gweithredu yn erbyn busnesau nad ydynt yn cydymffurfio â rheoliadau’r coronafeirws.

Daw hynny wedi i bedwar busnes bwyd poblogaidd yn Aberystwyth dderbyn rhybudd gwelliant ddoe (Rhagfyr 7).

Mae Cyngor Sir Ceredigion wedi annog unrhyw fusnes nad yw’n sicr o’i gyfrifoldebau i edrych ar wefan Llywodraeth Cymru.

Gall unrhyw fusnes sydd angen rhagor o wybodaeth neu arweiniad gysylltu â Thîm Trwyddedu’r Cyngor ar 01545 570881 neu clic@ceredigion.gov.uk.