Rhybudd gwelliant i bedwar busnes poblogaidd yn Aberystwyth

Yn eu plith mae Domino’s a Express Café

Gohebydd Golwg360
gan Ohebydd Golwg360

Mae pedwar cwmni bwyd yn Aberystwyth wedi eu rhybuddio gall eu busnesau orfod cau gan nad ydynt yn cydymffurfio a’r rheoliadau i atal lledaeniad y coronafeirws.

Cyflwynwyd yr hysbysiadau yn dilyn arolygiadau wedi’u cydlynu dros y penwythnos gan Heddlu Dyfed Powys a Thîm Diogelu’r Cyhoedd, Cyngor Sir Ceredigion.

Mae’n rhiad i’r busnesau gymryd camau rhesymol i ddarparu cyfarpar diogelu personol a gorchuddion wyneb gan sicrhau bob aelod o staff yn eu defnyddio.

Mae Hysbysiadau Gwella Mangre wedi cael eu cyflwyno i’r sawl sy’n gyfrifol am y siopau canlynol:

  • Express Café, Aberystwyth
  • Domino’s, Aberystwyth
  • Hot Dumplings, Aberystwyth
  • Star Fried Chicken and Pizza, Aberystwyth.

Mae’r hysbyseb yn rhybuddio y gallai peidio â chydymffurfio a’r gwelliannau arwain at gyflwyno hysbysiad cau mangre.

Bydd Tîm Diogelu’r Cyhoedd yn parhau i arolygu’r sefyllfa a gellir cyflwyno hysbysiadau gwella neu hysbysiadau cau mangre i’r busnesau nad ydynt yn cydymffurfio.

Mae gwybodaeth i fusnesau ar gael ar fan hyn.