Brodorion BroAber i’w hanrhydeddu i’r Orsedd

Yr Eisteddfod yn cyhoeddi enwau’r rhai oedd i’w derbyn i’r Orsedd er i’r Brifwyl gael ei gohiro

Gohebydd Golwg360
gan Ohebydd Golwg360

Mae’r Orsedd wedi penderfynu cyhoeddi enwau’r rhai a oedd am gael eu hurddo’n aelodau yn Eisteddfod Genedlaethol Tregaron eleni, er i’r Brifwyl gael ei gohirio.

Ymhlith rheiny sy’n cael eu hanrhydeddu i’r Orsedd mae Deian Creunant, Robat Gruffudd, Elin Haf Gruffydd Jones, Wynne Melville Jones, Helgard Krause yn cael eu hurddo i’r Wisg Werdd a Glan Davies a Siôn Jobbins yn cael eu hurddo i’r Wisg Las.

Y bwriad yw cynnal y seremonïau Urddo ar Faes yr Eisteddfod y flwyddyn nesaf.

Gan fod y broses wedi’i chwblhau cyn y cyfnod cloi, fydd yr Orsedd ddim yn ail-agor enwebiadau ar gyfer Eisteddfod Genedlaethol Ceredigion, a bydd enwebiadau ar gyfer Eisteddfod Llŷn ac Eifionydd yn agor ymhen y flwyddyn.

Deian Creunant

Deian Creunant

Mae Deian Creunant wedi cyfrannu at y celfyddydau yn lleol ac yn genedlaethol.

Yn un o’r lleisiau Cymraeg cyntaf ar Radio Ceredigion, cafodd gyfnodau yn gweithio gyda’r Urdd, y Gronfa Loteri Fawr a Llywodraeth Cymru, a bellach mae’n gyfarwyddwr cyfathrebu gyda FOUR Cymru.

Mae’n is-gadeirydd Pwyllgor Gwaith Eisteddfod Genedlaethol Ceredigion, yn cyd-arwain menter Ffoto Aber a bu’n gadeirydd Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd yng Ngheredigion yn 2010.

Mae’n aelod ac yn gyn gadeirydd o Fwrdd Rheoli ac Ymddiriedolwyr Cwmni Theatr Arad Goch, yn aelod o Fwrdd Rheoli Canolfan Morlan, ac yn flaenor yng nghapel y Morfa.

Dros y blynyddoedd mae wedi rhedeg i godi arian i elusennau lleol a chenedlaethol.

Angharad Fychan 

Mae Angharad Fychan wedi cyfrannu’n helaeth i faes enwau lleoedd.

Er 2011, bu’n ysgrifennydd cydwybodol ac egnïol Cymdeithas Enwau Lleoedd Cymru, gan ddarlithio’n gyson ar y pwnc.

Mae’n arwain teithiau cerdded addysgiadol er mwyn egluro pwysigrwydd enwau lleoedd yn y tirwedd, ac mae’n paratoi colofn enwau lleoedd yn fisol ar gyfer papur bro Y Tincer er 2013.

Mae hefyd yn aelod o dîm safoni enwau lleoedd Comisiynydd y Gymraeg.

Gwnaeth gyfraniad mawr hefyd yn ei gwaith fel Golygydd Hŷn ar staff Geiriadur Prifysgol Cymru, ac mae graen a brwdfrydedd yn nodweddu ei gwaith bob amser.

Robat Gruffudd

Robat Gruffudd

Anrhydeddir Robat Gruffudd o Dal-y-bont am ei gyfraniad i iaith a diwylliant Cymru.

Dechreuodd ymgyrchu pan oedd yn fyfyriwr ym Mangor, ac yn 1965, gyda’i ffrind, Penri Jones, cyhoeddodd y rhifyn cyntaf o’r cylchgrawn dychanol, Lol.

Yn 1967, sefydlodd wasg Y Lolfa, un o brif weisg Cymru erbyn heddiw.

Enillodd Wobr Goffa Daniel Owen ddwywaith, a chyhoeddi cyfrol o gerddi, A Gymri di Gymru?, yn 2008, a’i ddyddiaduron, Lolian, yn 2016.

Roedd yn un o’r tîm a sefydlodd y papur bro, Papur Pawb, ac mae’n parhau’n weithgar yn ei gymuned.

Yr Athro Elin H G Jones

Elin Haf Gruffydd Jones

Mae Elin Haf Gruffydd Jones wedi gweithio am dros 30 mlynedd mewn rhwydweithiau a phrosiectau sy’n cysylltu Cymru a’r Gymraeg gyda chyfandir Ewrop, gan fanteisio ar ei phrofiad rhyngwladol i gyfoethogi’r drafodaeth am y Gymraeg.

Yn 2017, fe’i penodwyd yn aelod o grŵp Cyngor Ewrop sy’n adolygu’r Siarter Ewropeaidd ar gyfer ieithoedd lleiafrifol a rhanbarthol.

Datblygodd Ganolfan Mercator a sicrhau trwy Gyfnewidfa Lên Cymru a Llenyddiaeth ar Draws Ffiniau i gannoedd o lyfrau o Gymru gael eu cyfieithu i ieithoedd y byd.

Mae’n Athro ym Mhrifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant, yn aelod o Fwrdd Rheoli’r Eisteddfod Genedlaethol ac yn Gadeirydd Cwmni Theatr Arad Goch.

Wynne Melville Jones

Wynne Melville Jones 

Yn wreiddiol o Dregaron, mae enw Wynne Melville Jones, Llanfihangel-Genau’r-Glyn yn gyfarwydd fel arloeswr PR, fel Tad Mistar Urdd ac artist.

Mae’r Urdd yn agos at ei galon ac mae’n Llywydd Anrhydeddus y mudiad.

Sefydlodd StrataMatrix, cwmni cyfathrebu dwyieithog cyntaf Cymru, a’i redeg yn llwyddianus am 30 mlynedd ac mae’n un o sylfaenwyr Golwg.

Yn weithgar yn ei gymuned sefydlodd, gydag eraill, y Banc Bro i ddatblygu gweithgareddau cymdeithasol lleol yn y Gymraeg.

Wedi ymddeol, ail-gydiodd mewn Celf a bu’n hynod gynhyrchiol a llwyddiannus, gan dynnu’n helaeth ar ddyfnder ei wreiddiau yn Nhregaron a Cheredigion.

Helgard Krause

Helgard Krause 

Yn wreiddiol o ardal Pfalz, Yr Almaen, daeth Helgard Krause i Gymru yn 2005.

Cafodd swydd gyda Chyngor Llyfrau Cymru yn marchnata llyfrau dramor, oherwydd ei phrofiad eang yn y byd cyhoeddi.

Ddwy flynedd yn ddiweddarach, ymrwymodd i ddysgu Cymraeg er mwyn dod yn Bennaeth Marchnata’r Cyngor, ac ymhen rhai misoedd, roedd yn rhugl.

Yn dilyn cyfnod fel Cyfarwyddwr Gwasg Prifysgol Cymru, dychwelodd i’r Cyngor Llyfrau yn 2017, wedi’i phenodi’n Brif Weithredwr y sefydliad.

Mae’n esiampl arbennig o’r modd y gall rhywun heb gysylltiad â Chymru ddod yn arweinydd un o’n prif sefydliadau drwy gofleidio ein hiaith a’n diwylliant.

Glan Davies, Parêd Gŵyl Ddewi Aberystwyth 2017

Glan Davies

Un o Frynaman yn wreiddiol, mae Glan Davies yn adnabyddus i genedlaethau o Gymry fel actor a digrifwr.

Yn arweinydd carismatig nosweithiau llawen ledled Cymru, bu’n chwarae rhan Clem Watkins yn Pobol y Cwm o 1988 tan 1997.

Cafodd ei ddewis i dywys Parêd Gŵyl Ddewi Aberystwyth yn 2017, yn sgil ei gyfraniad i fywyd diwylliannol yr ardal.  Mae’n adnabyddus am ei waith elusennol, gan godi arian i Blant mewn Angen, elusennau iechyd, Clwb Rygbi a Chlwb Pêl-droed Aberystwyth.

Mae hefyd yn rhan greiddiol o’r elusen Calonnau Cymru, a lwyddodd i sicrhau dros 70 o ddiffibrilwyr cyhoeddus yng Ngheredigion a thros 1,300 ar draws Cymru gyfan.

Siôn Jobbins

Siôn Jobbins

Mae cyfraniad Siôn Jobbins i Gymru dros y blynyddoedd diwethaf yn enfawr.

Fe’i ganed yn Zambia, ond symudodd y teulu i Gaerdydd pan oedd yn faban.

Ers ei gyfnod yn fyfriwr yn Aberystwyth, mae Siôn wedi ymgyrchu’n frwd dros y Gymraeg ac annibyniaeth i Gymru.

Sefydlodd Ras yr Iaith yn 2014, ymgyrch sy’n mynd â’r iaith drwy gymunedau Cymru bob dwy flynedd, gan gasglu arian wrth deithio, ac ef yw sylfaenydd Parêd Gŵyl Ddewi Aberystwyth.

Mae’n gadeirydd ‘Yes Cymru’ yn gyd-drefnydd y gorymdeithiau llwyddiannus dros annibyniaeth, a bu’n un o arweinwyr y cais i ennill parth dotCYMRU (.cymru) ar y we.

Yn awdur a golygydd toreithiog, fe’i hanrhydeddir am ei gyfraniad blaenllaw i ddyfodol Cymru.