Sw Borth yn ailagor

Y sw dal heb ddatrys problemau gyda ei system drylliau diogelwch

Gohebydd Golwg360
gan Ohebydd Golwg360

Mae Sw Borth wedi ail agor yn dilyn pryderon gan y cyngor sir am “ddiogelwch y cyhoedd a lles yr anifeiliaid.”

Mewn datganiad dywedodd Borth Wild Animal Kingdom: “Bydd y sw yn ailagor yr wythnos yma.”

“Er nad ydym wedi datrys y problemau gyda ein system drylliau diogelwch rydym wedi rhoi mesurau diogelwch ychwanegol ar waith i sicrhau diogelwch pawb, a bydd ardal y llewod yn parhau ar gau i’r cyhoedd.”

Gan fod anifeiliaid Categori 1 ar y safle, sef yr anifeiliaid mwyaf peryglus, mae’n ofynnol i’r sw fod â system drylliau boddhaol, ac mae’n rhaid i oleuaf un aelod o’r tîm arfau fod ar ddyletswydd bob dydd, dau yn ddelfrydol.

Mae’r sw yn gobeithio bydd modd datrys y problemau yma yn fuan, er mwyn agor pob rhan o’r safle i’r cyhoedd.

Diolchodd y perchnogion Dean a Tracy Tweedy am gefnogaeth y cyhoedd.

“Hoffem ddiolch i bawb am eu cefnogaeth ac edrychwn ymlaen at eich gweld  yn fuan.”

 

Fis diwethaf bu rhaid cau y sw oherwydd pryderon iechyd a diogelwch:

Sw Borth yn “cau am rai dyddiau”

Gohebydd Golwg360

System drylliau anfoddhaol yn arwain at gau y sw.