Sw Borth yn “cau am rai dyddiau”

System drylliau anfoddhaol yn arwain at gau y sw.

Gohebydd Golwg360
gan Ohebydd Golwg360

Borth Animal Kingdom – Llun Gohebydd Golwg360

 

Mae Sw Borth wedi gorfod cau yn dilyn pryderon gan y cyngor sir “ddiogelwch y cyhoedd a lles yr anifeiliaid.”

Mewn datganiad ar wefannau cymdeithasol dywedodd Borth Wild Animal Kingdom: “Bydd y sw yn cau am rai dyddiau wrth i ni ddatrys problemau gyda ein tîm drylliau diogelwch.”

“Rydym yn gobeithio datrys hyn mor fuan â phosib er mwyn ail agor yn fuan. Diolch i bawb am eich cefnogaeth.”

Dywedodd y Cynghorydd Gareth Lloyd, aelod Cabinet sy’n gyfrifol am Wasanaethau Amddiffyn y Cyhoedd: “Diogelwch y cyhoedd a lles yr anifeiliaid yw ein prif flaenoriaeth, rydym wedi dewis i gau’r llociau Categori 1 yn seiliedig ar hyn.”

Categori 1 yw’r anifeiliaid mwyaf peryglus. Rhagofn i un o’r anifeiliaid hyn ddianc mae’n ofynnol i bob sw fod â drylliau boddhaol ac mae’n rhaid i oleuaf un aelod o’r tîm arfau fod ar ddyletswydd bob dydd, dau yn ddelfrydol.

Cadarnhawyd bod Sw Borth wedi methu â chyrraedd y gofynion hyn.

 

Problemau blaenorol

Dihangodd lyncs Ewrasaidd o’r sŵ mis Hydref 2017, a bu’n rhaid eu gwahardd rhag cadw anifeiliaid categori un am gyfnod.

Yn dilyn y digwyddiad arwyddodd 12,000 o bobl deiseb ar-lein gan Ymddiriedolaeth Lyncs y Deyrnas Unedig yn galw ar gau’r sw a brynwyd gan Dean a Tracy Tweedy am £625,000 yn 2016.