SUL Y BLODAU 1980

Hanes cyrch yr heddlu yn Nhal-y-bont ar Sul y Blodau 1980 yn rhifyn Ebrill o Bapur Pawb

gan Gwyn Jenkins
stori papur Pawb

Tudalen flaen Papur Pawb Ebrill 1980

Mae rhifyn Papur Pawb Ebrill 2020 nawr ar gael ar wefan y papur www.papurpawb.com. Nid oedd yn bosibl ei argraffu a’i ddosbarthu yn ystod yr argyfwng presennol. Dyma’r tro cyntaf ers sefydlu Papur Pawb yn 1974 i’r papur ymddangos yn y fformat hwn yn unig.

Ar wahân i adroddiadau ar y sefyllfa ofidus bresennol a’r newyddion arferol, mae’r rhifyn hwn yn adrodd hanes cyrch yr heddlu yn Nhal-y-bont ar Sul y Blodau 1980, deugain mlynedd yn ôl. Mae’r tri a arestiwyd ar gam yn adrodd am eu profiadau.

Yn eu plith oedd Enid Gruffudd a dyma ran o’i disgrifiad:

Mae deugain mlynedd wedi mynd heibio ers i Robat a finne gael ein deffro am bump o’r gloch y bore. Sŵn mawr, golau glas, gweiddi a bygwth torri’r drws i lawr. Roedd yn ymweliad treisgar, gyda chwech o blismyn a dwy blismones yn ymddangos yn ein hystafell wely a Rob yn cael ei wthio’n ddiseremoni i gar heddlu yn ei byjamas fel y tybiais ar y pryd.

Roedden nhw’n arestio’r ddau ohonom, meddent, a finne’n methu deall beth oedd yn bod. Roedd yn anodd esbonio i’r plant pam fod heddlu yn y tŷ, ac am beth roedden nhw’n chwilio yn y bocs teganau ac yn set gemegol Einion – ac yn fy nroriau personol i. Mwy anodd byth oedd egluro i’r tri phlentyn pam fod yn rhaid eu gadael, heb eu rhieni, gyda gwahanol ffrindiau yn y pentre…

Mae modd i chi ddarllen mwy am y stori hon ar wefan Papur Pawb www.papurpawb.com