Barcud yn datblygu Heol Dinas ym Mhenparcau

Datblygiad tai ym Mhenparcau yn derbyn grant Llywodraeth Cymru

Mererid
gan Mererid

Mae Cymdeithas Dai newydd, Barcud yn cyhoeddi eu bod yn llwyddiannus i gael grant dan Raglen Tai Arloesol Llywodraeth Cymru.  Bydd hyn yn caniatáu ar gyfer datblygu 9 fflat un ystafell wely fforddiadwy ar Heol Dinas ym Mhenparcau, Aberystwyth.

Uniad o gymdeithasau tai Tai Canolbarth Cymru a Tai Ceredigion yw Barcud, a chafwyd erthygl ddiweddar ynglyn a ymroddiad y Prif Weithredwr, Steve Jones i’r iaith Gymraeg: –

Bydd y datblygiad arloesol arfaethedig yn bartneriaeth rhwng Barcud a Williams Homes, Bala, ar safle  garejys diangen ar hyd Heol Dinas. Mae’n adeilad cynaliadwy iawn sy’n arddangos y dulliau modern diweddaraf o dechnolegau adeiladu a pherfformiad ynni. Mae gan bob un o’r naw fflat ei ardal amwynder ei hun a lle parcio oddi ar y stryd.

Beth am y trigolion eraill?

Bydd y datblygiad yn darparu naw lle parcio ychwanegol oddi ar y stryd i breswylwyr presennol Heol Dinas.

Pryd bydd hyn yn digwydd?

Ar hyn o bryd, mae Cyngor Ceredigion yn ystyried cais cynllunio ar gyfer y datblygiad arfaethedig. Gallwch weld y cynlluniau a gyflwynwyd a gwybodaeth ategol arall trwy glicio ar y dolenni yma.

Os rhoddir caniatâd cynllunio, bydd y gwaith yn dechrau yng Ngwanwyn / Haf 2021.