Apêl am wybodaeth blwyddyn ers diflaniad dyn lleol

Roedd David Hugh Jones yn 54 oed pan ddiflannodd

Gohebydd Golwg360
gan Ohebydd Golwg360

Mae Heddlu Dyfed-Powys wedi cyhoeddi apêl newydd am wybodaeth yn ymwneud a diflaniad David Hugh Jones o Dre’r-Ddôl.

Mae’r wythnos hon yn flwyddyn ers ei ddiflaniad.

Mae CCTV yn dangos David Hugh Jones oedd yn 54 oed ar yr adeg,  yn gadael ei gartref yn Tre’r-Ddôl rhwng Machynlleth ac Aberystwyth oddeutu hanner dydd, Tachwedd 15, 2019.

Apêl am wybodaeth

Yn ôl DS Ashley Brice: “Rydym yn gwybod bod David yn mwynhau cerdded ar hyd llwybrau gwledig yn y pentref, fodd bynnag, nid yw wedi ei weld ers mis Tachwedd llynedd.”

“Dros y cyfnod hwn, rydym wedi gweithio’n agos gyda gwylwyr y glannau, timau achub, cwmnïau bysiau, rheilffyrdd a’r cyhoedd, gan gynnal chwiliadau.”

“Rydym yn gobeithio y bydd pobl yn gweld yr apêl hwn ac y bydd yn help iddyn nhw gofio.”

“Os ydych chi’n meddwl eich bod wedi gweld David ers mis Tachwedd diwethaf, neu’n gwybod unrhyw beth a allai helpu ein hymchwiliad, cysylltwch â ni.”

Mae modd cysylltu gyda’r heddlu yma, drwy anfon e-bost: contactcentre@dyfedpowys.pnn.police.uk neu drwy ffonio 101.