Mae Cyngor Ceredigion wedi lleihau ei allyriadau carbon 42% ers 2008, gan arbed £4 miliwn i’r cyngor – arian sy’n cael ei ail-fuddsoddi mewn gwasanaethau eraill.

Mae’r adroddiad diweddaraf yn dangos fod ansawdd yr aer yng Ngheredigion yn cydymffurfio  â’r holl Safonau ac Amcanion Ansawdd Aer Statudol ac nad oes angen rheolaeth bellach. Mae hefyd yn dangos bod crynodiadau rhai o’r prif lygryddion aer yn cwympo yn y sir.

Dywedodd Gareth Lloyd aelod Cabinet Cyngor Ceredigion sy’n gyfrifol am Ddiogelu’r Cyhoedd: “Mae pobl yn ymweld â Cheredigion am ei thirweddau hardd a’i awyr iach, felly mae’n wych cael y dystiolaeth bod gan Geredigion rai o’r ansawdd aer gorau yng Nghymru.”

Mae Cynllun Rheoli Carbon y cyngor syn lleihau allyriadau carbon yn parhau i gael ei ddatblygu yng Ngheredigion gyda’r nod o sicrhau nad oes allyriadau carbon gan y cyngor erbyn 2030.