Annog myfyrwyr Prifysgol Aberystwyth i ailgylchu

Canllaw newydd yn gofyn i fyfyrwyr gwblhau arolwg i ddarganfod beth yw eu harferion ailgylchu

Gohebydd Golwg360
gan Ohebydd Golwg360
Bagiau Ailgylchu tu fas i fflatiau myfyrwyr yn Aberystwyth

Bagiau Ailgylchu tu fas i fflatiau myfyrwyr yn Aberystwyth

Mae Cyngor Sir Ceredigion yn annog myfyrwyr ym Mhrifysgol Aberystwyth i ailgylchu mwy.

Maen nhw wedi cyhoeddi canllaw sy’n cynnwys gwybodaeth am ailgylchu a gwasanaeth casglu gwastraff sydd newydd gael ei sefydlu.

“I lawer o fyfyrwyr sy’n byw mewn llety preifat, efallai mai dyma’r tro cyntaf iddyn nhw brofi byw’n annibynnol a rhannu’r cyfrifoldeb am ddelio â’r gwastraff maen nhw’n ei gynhyrchu,” meddai’r cynghorydd Dafydd Edwards, sy’n gyfrifol am Briffyrdd a Gwasanaethau Amgylcheddol a Thai y Cyngor.

Fel rhan o’r canllaw, mae’r cyngor yn gofyn i fyfyrwyr sy’n byw mewn llety preifat i gwblhau arolwg i ddarganfod beth yw eu harferion ailgylchu ar hyn o bryd.

Bydd y sawl sy’n cwblhau’r arolwg yn cael cymryd rhan mewn raffl i ennill y cyfle i fanteisio ar wasanaethau hamdden y cyngor.

Canllaw i fyfyrwyr Aberystwyth
Canllaw i fyfyrwyr Aberystwyth – Llun Cyngor Ceredigion

I weld y canllaw llawn gan Gyngor Ceredigion cliciwch yma

Os ydych chi’n fyfyriwr yn Aberystwyth cliciwch yma i gwblhau’r holiadur

“Bydd y canllaw newydd i fyfyrwyr yn helpu i sicrhau bod gan fyfyrwyr y wybodaeth hanfodol sydd ei angen i wneud y gorau o’r gwasanaethau ailgylchu sydd ar gael iddynt yma yng Ngheredigion.”

Bagiau Ailgylchu ger tai myfyrwyr ar Heol y Frenhines, Aberystwyth
Bagiau Ailgylchu ger tai myfyrwyr ar Heol y Frenhines, Aberystwyth

“Oherwydd y newidiadau diweddar i’n gwasanaeth, nawr yw’r amser delfrydol i godi ymwybyddiaeth o ba mor hawdd yw hi i ailgylchu ac i leihau faint o eitemau y gellir eu hailgylchu sy’n cael eu taflu’n ddiangen mewn bag bin du.”

Darllenwch y stori wreiddiol ar Golwg360 yma.