Sut mae ailgychwyn cynnal eich gweithgareddau dan do a chadw’n ddiogel?

Canllawiau ymarferol i fudiadau a grwpiau sy’n dymuno dod ynghyd

Gohebydd Golwg360
gan Ohebydd Golwg360

Erbyn hyn, mae modd i 15 person gymryd rhan mewn gweithgareddau dan do yng Nghymru, os ydynt wedi’u trefnu gan glwb neu gorff cydnabyddedig.

Er bod nifer o fudiadau wedi dygymod â’r argyfwng drwy droi at ffyrdd digidol o gwrdd, nid yw hynny wedi bod yn bosib i bawb. Felly, gall rheolau newydd Llywodraeth Cymru fod o fudd i griwiau bach sydd am gyfarfod unwaith yn rhagor, boed hynny am sgwrs neu sesiwn ymarfer corff.

Er mwyn eich helpu i ystyried y pethau pwysig cyn trefnu cyfarfod dan do, dyma restr o ganllawiau ymarferol fydd yn eich helpu i gadw pawb yn iach ac yn saff os byddwch yn dewis cwrdd.

Y rheolau euraid

Rhaid i bawb ddilyn rheolau euraid y coronafeirws ar bob achlysur:

  • cadw pellter cymdeithasol o 2m bob amser, gan gynnwys yn yr awyr agored
  • gwisgo gorchudd wyneb
  • golchi dwylo yn rheolaidd

Canllawiau i drefnwyr:

Y trefnwyr fydd yn gyfrifol am gymryd pob cam rhesymol i leihau’r risg o ddod i gysylltiad â’r coronafeirws neu fod y feirws yn cael ei ledaenu:

  • rhaid i drefnydd digwyddiad gynnal asesiad risg cyn cynnal gweithgaredd
  • dylid ceisio cwrdd â phobl yn yr awyr agored yn hytrach nag o dan do, os oes modd
  • os nad yw hynny’n bosib, dylai’r trefnwyr ystyried pa mor dda y mae’r ystafell wedi’i hawyru ac a oes digon o le i sicrhau bod modd cynnal pellter corfforol o 2m
  • ni chewch gynnal eich gweithgaredd mewn cartref neu ardd breifat
  • cadwch eich sesiynau’n fyr ac yn fach o ran nifer y cyfranogwyr
  • ni ddylid gwerthu nac yfed alcohol yn y digwyddiadau

Y gweithgareddau:

  • dylid osgoi gweithgareddau sy’n ymwneud â chanu, llafarganu neu weiddi oherwydd y risg ychwanegol o heintio, hyd yn oed os cedwir pellter cymdeithasol a defnyddio gorchuddion wyneb
  • ni ddylid chwarae offerynnau cerdd, megis offerynnau gwynt, dan do
  • ni ddylid caniatáu gweithgareddau sy’n golygu cychwyn fesul ton neu fesul cam, os oes unrhyw risg o fynd yn groes i’r rheol ‘15 person dan do’

Cynnal gweithgareddau i blant:

  • caniateir cynnal gweithgareddau ar gyfer datblygiad a llesiant plant, fel clybiau chwaraeon, dosbarthiadau drama, grwpiau rhieni a phlant bychain, grwpiau ieuenctid a grwpiau crefyddol yn yr awyr agored a dan do
  • dylid ystyried y gwagle sydd ar gael i alluogi cadw pellter cymdeithasol cyhyd ag y bo modd gyda phlant, yn hytrach na gwahodd yr uchafswm nifer o blant

Ailagor canolfannau yn y gymuned

Mae Cyngor Sir Ceredigion wedi llunio dogfen ganllaw ymarferol i helpu cyfleusterau canolfannau cymunedol i ailagor ar ôl cyfnod hir o fod ar gau.

Mae’n cynnwys gwybodaeth ddefnyddiol ynglŷn â bacteria legionella, asesiadau risg a chreu rota glanhau.

Neges Llywodraeth Cymru

Er na fydd hyn yn bosibl ym mhob achlysur, mae Llywodraeth Cymru wedi datgan ei bod hi’n fwy diogel cynnal gweithgareddau ar-lein, lle bo modd.

Bydd rhagor o ganllawiau ar y gweithgareddau hyn yn cael eu cyhoeddi gan Lywodraeth Cymru yn fuan.