Bws wennol i’r orsaf bleidleisio

Undeb Myfyrwyr Aberystwyth yn trefnu bws wennol am ddim i gludo myfyrwyr i’r orsaf bleidleisio.

Gohebydd Golwg360
gan Ohebydd Golwg360

Eleni bydd Undeb Myfyrwyr Prifysgol Aberystwyth yn cynnig bws wennol am ddim i gludo myfyrwyr o’u neuadd breswyl i’r orsaf bleidleisio.

Mae dros 8000 o fyfyrwyr yn astudio ym Mhrifysgol Aberystwyth, mae disgwyl felly i bleidlais y myfyrwyr chwarae rhan allweddol yn etholaeth Ceredigion.

Mae modd i fyfyrwyr gofrestru i bleidleisio mewn dwy etholaeth wahanol. Yn eu cyfeiriad cartref a’u cyfeiriad yn ystod y tymor. Fodd bynnag, mae’n drosedd bwrw mwy nag un bleidlais ar eich rhan eich hun.

 

Profodd hystings diweddar a drefnwyd gan yr Undeb yn boblogaidd iawn gyda myfyrwyr. Er hyn, roedd nifer o fyfyrwyr wedi siomi o glywed fod ymgeisydd Plaid Brexit, Gethin James wedi tynnu nôl o’r ddadl ddwy awr yn unig cyn iddi ddechrau.

Roedd Alan Cookson yn cynrychioli’r Blaid Werdd ar y noson gan fod yr ymgeisydd Chris Simpson â “ymrwymiadau etholiadol eraill.”

Roedd yr ymgeiswyr eraill i gyd yn bresennol.

 

Mae’r bws sydd yn rhedeg rhwng 10:30 – 17:20 yn galw ym mhob neuadd breswyl a gorsaf bleidleisio yn y dref.

 

Posted by Undeb Myfyrwyr Aberystwyth Students' Union on Friday, 6 December 2019

 

Ymgeiswyr Ceredigion: 

  • Amanda Jenner, Ceidwadwyr
  • Chris Simpson, Y Blaid Werdd
  • Dinah Mulholland, Llafur
  • Mark Williams, Democratiaid Rhyddfrydol
  • Ben Lake, Plaid Cymru
  • Gethin James, Plaid Brexit