Teyrngedau i Meilyr Llwyd

Yn dilyn y newyddion trist iawn bod Meilyr Llwyd wedi marw, cafwyd toreth o deyrngedau iddo gan bobl Aberystwyth a’r cyffiniau

Gohebydd Golwg360
gan Ohebydd Golwg360

Yn dilyn y newyddion trist iawn am farwolaeth Meilyr Llwyd, cafwyd toreth o deyrngedau iddo gan bobl Aberystwyth a’r cyffiniau. Dyma rai ohonynt.

Gem o fachgen

Dywedodd Prif Weithredwr y Llyfrgell Genedlaethol, Peredur ap Llwyd:

“Gellid dadlau’n hawdd iawn mai trysorau pennaf y Llyfrgell yw ei chasgliadau digyffelyb – Llyfr Gwyn Rhydderch, Llyfr Du Gaerfyrddin, Llyfr Aneirin, Llyfr Taliesin ac yn y blaen, ond er cyfoethoced y gwrthrychau hyn, heb os, gweithlu’r Llyfrgell yw ei thrysor pennaf.

“Roedd Mei yn un o’r trysorau hynny ac fe gyfoethogodd nid yn unig gymdeithas weithiol y Llyfrgell ond hefyd fywydau bob un ohonom gafodd y fraint o gael ein cyfrif yn ffrind iddo. Rhywsut neu’i gilydd roedd Mei yn bresennol ym mhob man. Roedd yn ddyn bobol ac yr oedd y bobl hynny yn bobl Mei.

“Bydd ein darllenwyr a’n hymwelwyr ni, yn ogystal â’r staff yn gweld bwlch mawr ar ei ôl. Roedd Mei yn ffrind annwyl i bob un ohonom ac y mae’n anodd dirnad na fydd y cymeriad hoffus hwn gyda ni bellach yn y Llyfrgell.

“Roedd Mei yn chwa o awyr iach, yn em o fachgen ac ymhlith y gorau o blant dynion.”

Ffrind i bawb

Dyma a ddywedodd Medi Jones-Jackson:

“Meilyr Llwyd… ble i ddechrau? Yn gymeriad hoffus, annwyl, oedd wastad yn barod ei wen a barod am sgwrs.

“Yn gefnogwr brwd o Lerpwl a thîm pêl-droed Cymru, roedd ei lygaid drygionus yn pefrio wrth iddo atgoffa chi pa mor wael oedd perfformiad eich tîm chi dros y penwythnos tra bod Lerpwl yn ffynnu dan Klopp.

“Yn ffrind i bawb, heb os bydd Aberystwyth, Cymru a chlwb cefnogwyr Lerpwl yn dlotach hebddo.”

Gwên ddireidus

“Mi fydda i yn gweld eisiau’r wên ddireidus” medd Elin Hâf Williams.

*

Diolchwn i Lyfrgell Genedlaethol Cymru am ganiatâd i ddefnyddio eu llun o Meilyr Llwyd.

Mae’r teulu yn estyn gwahoddiad cynnes i ffrindiau, cydweithwyr a holl gydnabod Mei fynychu dathliad anffurfiol i gofio a diolch am ei fywyd, yng Ngwesty’r Marine, Aberystwyth am 4 o’r gloch y prynhawn Hydref y 5ed.

Anogir pawb sy’n dymuno i wisgo dillad lliwgar neu grysau pêl-droed. Blodau’r teulu yn unig. Croesewir rhoddion ariannol er cof am Mei i Gronfa Goffa Meilyr Llwyd, i’w dosbarthu yn y man rhwng elusennau lleol.