Mae Rewilding Britain yn gadael y prosiect amgylcheddol dadleuol, O’r Mynydd i’r Môr, bythefnos wedi i broaber360 ddatgelu eu bod yn fodlon ystyried pwy yw eu partneriaid.
Mae’r penderfyniad hwn yn dod wedi beirniadaeth gan aelodau o’r gymuned leol ac undebau ffermwyr, a gan fudiad Eco Dyfi a adawodd y prosiect oherwydd rhai o’r pryderon.
Roedd ffermwyr yn anhapus fod Rewilding Britain yn gysylltiedig â’r prosiect, gan boeni y byddai hynny’n golygu ailgyflwyno anifeiliaid ysglyfaethus a thrawsnewid tir amaeth.
Croeso gochelgar
Yn ôl Dafydd Morris Jones, sy’n ffermio yn ardal Ponterwyd, doedd cysylltiad Rewilding Britain â’r prosiect yn “creu dim byd ond drwgdeimlad a negyddiaeth”.
Ond roedd ganddo rybudd hefyd yn dilyn y newyddion fod y mudiad yn gadael y cynllun.
“Rewilding Britain oedd y prif rwystr [i ffermwyr lleol], ond mae’n rhaid sylweddoli mai Rewilding Britain wnaeth ysgrifennu’r cais gwreiddiol i’r Endangered Landscapes Programme,” meddai.
“Felly, mae angen sicrhau bod ôl troed Rewilding Britain hefyd yn gadael y prosiect, ac nid jyst y sefydliad ei hunan… Os yw hwn yn wirioneddol nawr yn gyfle i ailddechrau, fe ddylai fod yn ailddechrau o’r cychwyn.”
“Mae angen mynd yn ôl i’r bwrdd dylunio, gyda’r bobol gywir o amgylch y bwrdd y tro hwn, ac edrych os oes yna fodd i ddylunio rhywbeth gwirioneddol sy’n mynd i weithio.”
‘Mynd yn ôl i gymunedau lleol’
Mewn cyfweliad gyda broaber360, fe wnaeth Rory Francis o Coed Cadw, un o bartneriaid craidd y prosiect a chyd-awduron y cais gwreiddiol ar y cyd â Rewilding Britain, bwysleisio nad prosiect ail-wylltio oedd e, er gwaethaf cyfranogiad y mudiad ail-wylltio.
“Yn ôl yr hyn dwi’n ei ddeall, mae rhai pobl wedi meddwl, wel oherwydd bod Rewilding Britain yn un o’r partneriaid, mae rhaid ei fod o’n brosiect ailwylltio, mae’n rhaid eu bod nhw am ddod ag eirth yn ôl, a doedd hynny byth yn rhan o’r rhaglen o gwbl’, meddai.
“Ydan ni yn mynd yn ôl i gymunedol lleol rŵan, ac i undebau ffermwyr a rhanddeiliaid er mwyn dweud yn gwbl, gwbl glir nad dyna’r bwriad.
“Rydan ni’n barod i drafod pob agwedd ar y prosiect, gan gynnwys pwy yw’r aelodau – y partneriaid.”
‘Dylem fod wedi cyfathrebu’n fwy eang’
Meddai Prif Weithredwr Rewilding Britain, Rebecca Wrigley: “Rydym yn fach ofnadwy o fod wedi helpu sefydlu O’r Mynydd i’r Môr. Mae’n brosiect ysbrydoledig am adfer natur, buddio cymunedau gwledig a chefnogi’r economi lleol. Er mwyn llwyddo, mae’n rhaid iddo gael ei arwain a’i gefnogi gan y gymuned leol.
“Un o’n prif flaenoriaethau yw y dylai sefydliadau a chymunedau fod wrth galon hyn. Er bod O’r Mynydd i’r Môr yn cynnal cyfres o gyfarfodydd ac ymgynghoriadau wyneb yn wyneb yn lleol, fe ddylem fod wedi cyfathrebu’n fwy eang bod rhaid i’r prosiect gael ei arwain gan sefydliadau lleol.
Cyfle i ailddechrau
Meddai cyfarwyddwr O’r Mynydd i’r Môr, Melanie Newton: “Mae’r gymuned wrth galon prosiect O’r Mynydd i’r Môr, ac felly mae barn pobl leol yn hanfodol i’r partneriaeth.
“Mae grŵp llywio’r prosiect – gan gynnwys Rewilding Britain – wedi ystyried y pryderon a godwyd gan bobl leol ac undebau ffermio ac wedi penderfynu gwneud newidiadau i’r ffordd y caiff O’r Mynydd i’r Môr ei reoli. Rydym bellach yn awyddus i symud ymlaen gyda’r gymuned ac arwain y ffordd tuag at ddyfodol sydd o fudd i bawb.”