O’r Mynydd i’r Môr yn barod i ystyried pwy yw’r partneriaid

Mae trefnwyr cynllun O’r Mynydd i’r Môr wedi dweud eu bod yn fodlon trafod pa gyrff a mudiadau sy’n rhan o’r prosiect.

Gohebydd Golwg360
gan Ohebydd Golwg360

Mae trefnwyr cynllun dadleuol O’r Mynydd i’r Môr wedi dweud wrth Bro360 eu bod yn fodlon ystyried pa gyrff a mudiadau sy’n rhan o’r bartneriaeth.

Mae hynny, medden nhw, yn cynnwys ystyried lle’r mudiad Rewilding Britain yn y cynllun – mae ffermwyr a phobl leol eraill wedi gwrthwynebu eu presenoldeb, gan ofni eu bod yn bwriadu ailgyflwyno anifeiliaid ysglyfaethus.

Mewn cyfweliad arbennig, mae un o swyddogion y prosiect a swyddog un o’r partneriaid craidd wedi pwysleisio wrth Bro360 na fyddant yn prynu unrhyw dir ond yn canolbwyntio ar gydweithio gyda ffermwyr a thirfeddianwyr.

‘Barod i drafod pob agwedd’

“Yr unig le lle mae’r gair ‘Rewilding’ yn cael ei ddefnyddio [ar weafn O’r Mynydd i’r Môr] yw enw y mudiad ‘Rewilding Britain’. Ond maen nhw’n un o’r partneriaid, felly allen ni ddim eu torri nhw allan”, meddai Rory Francis, Rheolwr Cysylltiadau Cyhoeddus Coed Cadw, sef un o bartneriaid craidd y cynllun.

“Yr hyn ydan ni’n gallu ei wneud yw dweud ein bod yn awyddus i siarad efo rhanddeiliaid, ac ydan ni’n barod i drafod pob agwedd ar y prosiect, gan gynnwys pwy yw’r aelodau – y partneriaid.”

“Rydan ni’n gobeithio’n fawr y bydd yr undebau amaethyddol, cymunedau lleol, yn barod i ddod i fewn ac i gyd-weithio efo phrosiect newydd lle mae’n glir o’r cychwyn cyntaf beth yw’r bwriadau.”

‘Nid prosiect ailwylltio’

Fe bwysleisiodd un o swyddogion O’r Mynydd i’r Môr nad cynllun ailwylltio yw e ac nid oes bwriad prynu tir.

“Fe wnaeth Coed Cadw a Rewilding Britain sgwennu’r bid gwreiddiol, ac yn un o’r dogfennau gwreiddiol roedd na rywbeth am ‘land acquisition’,” meddai Sian Stacey, Cydlynydd Ymgysylltu â’r Gymuned.

“Nawr mae pobl wedi codi hwnna yn y wasg a dw i ddim yn gyfforddus â’r geiriau yna, a dw i’n deall pam na fyddai pobol yn gyffyrddus â nhw.

“Mae’r partneriaid i gyd wedi cytuno i wneud yn siŵr na fydd hwnna byth ar y bwrdd. Fydd hwnna byth yn rhan o beth mae’r prosiect ambyty.

“Dydy e ddim o gwbl ambyty cael gwared ar anifeiliaid o’r tir chwaith. Mae yna rôl mawr i wartheg a defaid ac anifeiliaid pori yn y newid yma.”

‘Ddim am gael gwared ar ffermydd’

Roedd Sian Stacey yn cydnabod nad oedd rhai o elfennau’r cynllun wedi cael eu cyfathrebu’n dda iawn.

“Dydyn ni ddim am gael gwared ar y ffermydd o gwbl,” meddai. “Ond mae’r ffermwyr yn barod yn sylweddoli bod angen newid. R’yn ni wir yma i’w helpu nhw trwy’r newid.

“R’yn ni’n gwybod mai’r bobol sy’n nabod y tir orau yw’r bobol sydd wedi byw a gweithio ar y tir ers canrifoedd… felly dod â nhw yn rhan o’r prosiect er mwyn gweithredu’r syniad.

“‘R’yn ni eisiau gweld cymaint o bobol ag y gallwn ni yn rhan o’r broses nesaf.”

Cefndir

Menter amgylcheddol sy’n anelu at adfer eco-systemau dros 10,000 hectar o dir a 28,400 hectar o’r môr yw O’r Mynydd i’r Môr. Mae’n cwmpasu godreon Pumlumon yn y mewndir hyd at aber Afon Dyfi a pheth o’r môr y tu hwnt iddi.

Mae wedi ennill £3.4m o gyllid am y 5 mlynedd nesaf trwy’r Rhaglen Tirweddau Dan Berygl.

Y ddau brif bartner yw Rewilding Britain a Coed Cadw. Beirniadwyd y prosiect gan ffermwyr lleol am beidio â bod yn glir ynghylch ei amcanion, ac am ran Rewilding Britain ynddo.